Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2015

Gweini rysáit teuluol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

Bydd y gwleidydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn gweini rysáit teuluol y mae’n ei drysori yn nathliad Gŵyl Ddewi canolfan ragoriaeth Gymreig.

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru am ymuno â Dai Chef yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant ar Fawrth 1 i nodi diwrnod dathlu nawddsant Cymru.

Mae'r Arglwydd a’r Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd yn cyfaddef ei fod wrth ei fodd yn coginio i’w deulu ar ôl dysgu sgiliau sylfaenol y gegin pan oedd yn fyfyriwr.

Bydd ‘cawl taid’ yn cael ei weini i’r gwesteion ar y diwrnod. Mae’r cawl wedi’i wneud trwy ddilyn hen rysáit ei nain o gig moch a gwreiddlysiau gyda chaws Aberwen Bodnant ar ei ben. Dilynir y cawl wedyn gan gig oen wedi’i fagu gerllaw yn Llanrwst a’i stwffio â garlleg gwyllt lleol, ac yna cerflun siocled o Eryri, wedi’i greu gan Dai, i orffen.

Yn y digwyddiad bydd yr Arglwydd Elis-Thomas, a fagwyd yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, hefyd yn hel atgofion am yr ardal a'i chynnyrch.

"Pan oeddwn yn tyfu i fyny treuliais lawer o amser gyda fy modrybedd, ac mi ddysgais ganddyn nhw pa mor bwysig oedd hi i fwyta yr holl fwyd roeddent yn ei dyfu, sef cynnyrch ffres y tir," meddai’r Arglwydd Elis-Thomas.

"Dyma felly yw tarddiad y cawl, sef hen rysáit fy nain - mae'n seiliedig ar y cig o’r moch roeddent yn eu cadw a'r gwreiddlysiau o’u gardd.

"Dw i wrth fy modd gyda'r cawl ac mae'r blas mor iachus," ychwanegodd yr Arglwydd Elis-Thomas

Mae Dai yn llysgennad ar gyfer bwyd o Gymru, ac mae wedi coginio ar gyfer yr Arglwydd Elis-Thomas ar sawl achlysur. Mae'n edrych ymlaen at ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda'r Arglwydd.

"Mae hwn yn ddathliad o bopeth Cymreig, o'r cawl i’r pwdin. Rwy’n Gymro i'r carn ac yn caru hyrwyddo cynnyrch gwych o Gymru, ac yn enwedig o’r ardal hon yn Nyffryn Conwy, ar gyrion Eryri," dywedodd Dai, a fu draw yn Las Vegas yn ddiweddar yn arddangos cynnyrch o Gymru o flaen dwsinau o gogyddion rhyngwladol mewn ffair fasnachol i’r diwydiant teithio.

"Ar y diwrnod rwy'n gobeithio y byddwn yn cael rhywfaint o ddarlleniadau a barddoniaeth hefyd. Dyna yw’r ffordd i ddathlu ein nawddsant, gyda chynnyrch Cymreig a diwylliant Cymru."

Dechreuodd yr Arglwydd Elis-Thomas goginio pan oedd yn fyfyriwr - er ei fod yn cyfaddef iddo wneud ychydig o gamgymeriadau ar hyd y ffordd.

“Rwy'n cofio un tro i mi goginio cyw iâr a darganfod bod y syrth (‘giblets’) yn dal y tu mewn. Mi wnes i sylweddoli’n gyflym nad dyna oedd y ffordd gywir!

"Dechreuais ddarllen llyfrau coginio Elizabeth David a dyna mewn gwirionedd oedd y man cychwyn. Rwyf wrth fy modd yn coginio ar gyfer y teulu ac rwyf wedi gwneud yn siŵr bod fy mhlant yn gwybod sut i ofalu am eu hunain yn y gegin.

"Mae'r cawl yn un rwy’n dal i’w goginio, ac yn ei orfodi ar fy wyrion! Dw i'n tueddu i wneud dogn reit fawr a chadw unrhyw gawl dros ben yn yr oergell a fydd yn para i mi wedyn am rai dyddiau. Mae'n un o'r pethau defnyddiol yna i’w cael - er fy mod yn edrych ymlaen at flasu fersiwn Dai ohono," dywedodd y gwleidydd, sy'n rhannu ei amser rhwng ei gartref yng Nghaerdydd tra mae’r Senedd yn eistedd, a'r bwthyn teuluol ym Metws y Coed pan ddaw yn ôl i'r etholaeth.

Ychwanegodd: "Un o fanteision mawr fy swydd yw fy mod wedi teithio i nifer o ardaloedd yn Ewrop, megis Catalwnia, a phan rydych yno mae’r llywodraeth ranbarthol bob amser yn sicrhau bod prydau lleol yn cael eu gweini i chi.

"Felly rwyf wedi gallu blasu sawl math o fwyd rhanbarthol gwych - a fy nod yw sicrhau bod cynnyrch Cymru i fyny yna gyda'r bwyd Ewropeaidd gorau."

Yn gyn-ymchwilydd ac athro mewn addysg oedolion ac addysg uwch, mae’r Arglwydd Elis-Thomas yn ganghellor Prifysgol Bangor a Llywydd Coleg Llandrillo. Ef yw Is-Lywydd Apêl Eryri yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n buddsoddi mewn ffermio cynaliadwy a chadwraeth yn Eryri. Mae'n weithgar yn yr Eglwys yng Nghymru.

Bu Dai, sy'n byw ym Mae Colwyn, yn coginio pryd enwog i Pavarotti pan ddychwelodd y seren opera i berfformio yn yr Eisteddfod Ryngwladol ym 1995. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae wedi gweithio yng ngheginau rhai o westai mwyaf y West End yn Llundain ac, yn 21 oed, ef oedd y cogydd saws ieuengaf - yn gyfrifol am y gwaith o greu sawsiau blasus – yng nghlwb byd enwog y Carlton Club yn St James.

Bu’n hyfforddi cogyddion fel Rhodri Williams, prif gogydd sous bwyty nodedig Raymond Blanc, Le Manoir aux Quat'Saisons yn Swydd Rhydychen. Yn 2008 derbyniodd Dai Gymrodoriaeth Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Agorwyd Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn Fferm Ffwrnais, Tal-y-cafn yn Nyffryn Conwy yn swyddogol gan Dywysog Cymru a Duges Cernyw ym mis Gorffennaf 2012. Mae'r ganolfan werth £6m, ac mae wedi gweld ei refeniw yn codi i £2.4m, cynnydd o 35% o’r £1.77m a gafwyd yn ei blwyddyn gyntaf o fasnachu. Mae’r ganolfan hefyd wedi croesawu 243,000 o ymwelwyr - cynnydd o 214,000 (13.5%) o’r ymwelwyr a ddaeth yno yn y flwyddyn flaenorol.

Mae mwy na 80 o bobl yn cael eu cyflogi yn y siop fferm, y seler win, yr ystafelloedd te, bwyty’r Llofft Wair a llety ffermdy ynghyd â Chanolfan Gwenyn Cymru, tra bod dros 100 o gynhyrchwyr bwyd crefftus yn cael eu cynrychioli ym Modnant

Am fwy o fanylion ewch i www.bodnant-welshfood.co.uk neu ffoniwch 01492 651100

 

Llun: Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, a Dai Davies, prif gogydd Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, fydd yn coginio cawl yr Arglwydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Rhannu |