Mwy o Newyddion
Premiere o waith newydd Owain yn dilyn llwyddiant gyda'r Hobbit
Bydd gwaith newydd gan gyfansoddwr talentog a drefnodd y gerddoriaeth ar gyfer rhaglun newydd yr Hobbit yn cael ei berfformio yn un o brif ŵyliau cerddoriaeth Cymru.
Mae Owain Llwyd, 30, sydd hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer yr X-Factor, Top Gear a Big Brother, yn edrych ymlaen yn arw at y premiere fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor, sy’n dechrau ar Fawrth 4.
Mae “wedi cyffroi’n lân” ynglyn â’r comisiwn sydd wedi ei ysgrifennu yn arbennig ar gyfer Camerata Gogledd Cymru - ensemble o dros 20 o gerddorion ifanc, o dan arweiniad Patrick Rimes.
Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yng Nghapel Penrallt, Bangor ar Sadwrn, Mawrth 7, am 7.30pm.
Dywedodd Owain, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’n dra wahanol i’r hyn ‘rwyf yn cyfansoddi fel arfer. Mae wedi ei seilio ar alaw draddodiadol Gymreig o’r enw Y Deryn Pur ond mae rhaid aros tan ddiwedd y darn cyn clywed yr alaw yn ei chyfanrwydd am y tro cyntaf. Cyn hyn, mae’r alaw yn cael ei hymestyn.
“Mae’r holl ddarn, sydd mewn tri symudiad, yn wahanol i’r hyn ‘rwyf fel arfer yn ei gyfansoddi.
“Ysgrifennais y symudiad cyntaf a’r olaf dros y Nadolig. Fe gollais bedwar neu bump o’m ffrindiau - oll â chysylltiadau cryf gyda Gogledd Cymru - yn ystod y cyfnod ac er, fwy na thebyg, fel rhan o fy isymwybod, mae’r gwaith yn reit ysbrydol.
“Y canlyniad yw darn o’r enw Gentle Dove ar gyfer llinynnau a’r trwmped. Mae’r symudiadau cyntaf ac olaf bron mewn arddull goffa tra bod yr ail symudiad yn fwy llon ac i fod i ddathlu bywyd.
Dywedodd Owain, sydd â swydd ym Mhrifysgol Bangor wedi ei hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n gweithio â phrifysgolion ledled Cymru i ddatblygu cyfleon i fyfywryr sy’n medru’r Gymraeg, ei fod wedi bod eisiau ysgrifennu rhywbeth yn arbennig ar gyfer Camerata Gogledd Cymru wedi iddo glywed yr ensemble yn perfformio am y tro cyntaf.
“Dyna pam ‘roeddwn mor falch o gael y comisiwn gan Ŵyl Gerdd Bangor. Yn syth wedi i mi weld y Camerata yn chwarae ‘roeddwn yn gyffrous am y cyfle.
“Mae Gentle Dove yn ddarn ar gyfer llinynnau a’r trwmped. Gwyn Owen fydd yn chwarae’r trwmped ond mae’r cerddorion i gyd â chysylltiadau gyda Gogledd Cymru ac maent i gyd yn astudio mewn colegau cerddoriaeth ledled Prydain.”
Aeth Owain, sy’n wreiddiol o Lyndyfrdwy, rhwng Llangollen a Chorwen, i Ysgol Dinas Bran yn Llangollen cyn symud i Ysgol y Berwyn yn y Bala ar gyfer y chweched dosbarth. Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ystod ei dair blynedd fel myfyriwr israddedig enillodd holl wobrau cyfansoddi Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol - yr unig gyfansoddwr i gwblhau’r gamp.
Aeth ymlaen i gwblhau ei ddoethuriaeth mewn cyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu ym Mangor cyn ei benodi’n ddarlithydd cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn ogystal â darlithio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a chyfansoddi ei gerddoriaeth ei hun, mae Owain yn brysur yn trefnu gwaith cyfansoddwyr eraill.
Dywedodd: “‘Dwi’n trefnu llawer o waith y cyfansoddwr Prydeinig Tom Player gan nodiannu’r sgôr ar gyfer ei gerddoriaeth. Mae Tom yn arbenigo mewn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer rhagluniau ffilm a hysbysebion theledu.
“Yn aml iawn bydd o’n ysgrifennu’r gerddoriaeth a mi fydda' i'n ei sgôrio ar gyfer cerddorfa. Mae’r gwaith trefnu yma’n rhan bwysig iawn o’r broses. ‘Dwi wedi cael y cyfle i weithio ar brosiectau arbennig megis y ffilm Hobbit ddiweddaraf ac hysbysebion teledu ar gyfer cwmniau megis Ikea.
“‘Rwyf hefyd wedi cyfansoddi gwaith gwreiddiol sydd wedi ei gynnwys ar raglenni fel X-Factor, Top Gear, yr Open yn yr Unol Daleithau, Masterchef a Big Brother.”
Mae Dr Guto Pryderi Puw, cyfarwyddwr artistig yr Ŵyl, sy’n ddarlithydd prifysgol ac yn gyfansoddwr adnabyddus ei hun, wrth ei fodd bod gwaith newydd gan Owain Llwyd yn cael ei berfformio fel rhan o’r ŵyl, sy’n 5 diwrnod o hyd.
Meddai ef: “Mae enw da Owain fel cyfansoddwr o fri yn parhau i gynnyddu, nid yn unig ym myd ffilm a theledu ond hefyd mewn neuaddau cyngerdd. Mae ei gerddoriaeth yn uniongyrchol ac yn llawn rhythmau egniol sy’n argoeli’n dda ar gyfer rhaglen hynod gyffrous y cyngerdd nos Sadwrn.”
Bydd gwaith a bywyd y cerddor chwedlonol Frank Zappa yn cael ei ddathlu yn yr ŵyl, gan roi’r cyfle i bobl i siarad â’i weddw, Gail, mewn sesiwn cwestiwn ac ateb dros y wê.
Bydd yr eicon Americanaidd oedd yn enwog am arwain bandiau, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a chyfarwyddo ffilmiau yn cael ei goffau mewn cyfres o ddigwyddiadau.
Y thema eleni yw ‘Croesi-Ffin ac Aml-Gyfrwng’, gyda phob cyngerdd yn gysylltiedig â phrosiect addysg arbennig, gan gyd-weithio â nifer o ysgolion lleol yn ogystal â myfyrwyr prifysgol y ddinas.
Y pedwarawd enwog Apollo Saxophone Quartet fydd yn agor yr Ŵyl gyda cherddoriaeth sy’n croesi ffiniau gan gyfansoddwyr megis Graham Fitkin, Django Bates a Keith Tippet yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol y pedwarawd ar gyfer ffilmiau byrion mud. Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor.
Daw’r Ŵyl i ben ar nos Sul, Mawrth 8, gyda chyngerdd Rees/Roche/Pestova, ble cyflwynir Gwobr Gyfansoddi William Mathias am ddarn ar gyfer y ffliwt, clarinét, piano ac electroneg.
Am ragor o wybodaeth neu i archebu tocynnau ewch i www.gwylgerddbangor.org.uk
Llun: Owain Llwyd