Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2015

Angen gweledigaeth addysg Gymraeg: Ymateb i Adroddiad Donaldson

Er bod Adroddiad Donaldson yn cydnabod cyfraniad addysg Gymraeg, dyw’r adroddiad ddim yn cynnig gweledigaeth am rôl addysg Gymraeg wrth greu gwlad ddwyieithog. Dyna honiad RhAG wrth ymateb i’r adroddiad.

Medd Ceri Owen, prif swyddog RhAG, “Mae gan Lywodraeth Cymru’r nod o greu gwlad ddwyieithog. Mae adroddiad Donaldson fel pe bai’n trafod y Gymraeg yn bwnc, ymysg pynciau eraill. Er ei fod yn cydnabod gwerth ysgolion Cymraeg, ac am eu gweld yn ganolbwynt i hyrwyddo arfer da, dyw’r adroddiad ddim yn cynnig gweledigaeth ar gyfer y twf y mae’n rhaid i ni ei weld mewn addysg Gymraeg.”

“Mae’n dda bod yr adroddiad am weld y Gymraeg yn cael ei datblygu’n iaith drafod mewn ysgolion Saesneg. Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio’r iaith fel cyfrwng, a dyw’r adroddiad ddim yn cynnig ffordd ymlaen yn hyn o beth.”

“Wrth i ni a’r Llywodraeth drafod adroddiad Donaldson, mae angen cael gweledigaeth glir am rôl y Gymraeg mewn addysg wrth i ni greu Cymru ddwyieithog. Bu ysgolion Cymru’n ddigon hir yn fodd o ladd yr iaith. Daeth yn bryd iddyn nhw ddod yn gyfrwng ei hadfywio.”

Llun: Yr Athro Graham Donaldson

Rhannu |