Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2015

Adolygiad Donaldson o’r cwricwlwm yn ‘gam pwysig’ i wella addysg

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r adolygiad o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru gan yr Athro Graham Donaldson i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd AC y Canolbarth a’r Gorllewin a Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, Sgiliau a’r Iaith Gymraeg, Simon Thomas: “Mae’r cwricwlwm presennol wedi dyddio, yn or-ddeddfol ac yn rhy gymhleth.

“Mae’n anodd i athrawon ganfod eu ffordd drwyddo. Yr ydym yn croesawu argymhelliad Donaldson am gwricwlwm mwy ystwyth a hyblyg sy’n gosod allan amcanion yn hytrach na bod yn rhy ddeddfol am y cynnwys.

“Mae Plaid Cymru wedi galw am gwricwlwm syml a dealladwy sy’n caniatáu i athrawon gyflwyno’r amcanion a osodwyd allan gan y llywodraeth. Yr ydym yn cydnabod yr adolygiad hwn fel cam pwysig ar y daith i wella addysg myfyrwyr mewn dosbarthiadau ar hyd a lled Cymru.”

“Cyflwynwyd y cwricwlwm presennol hwn flynyddoedd cyn i ni gael Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gan lywodraeth dan arweiniad Thatcher yn San Steffan. Gosodwyd darnau eraill o’r cwricwlwm ar ei ben. Mae’r adolygiad hwn yn rhoi cyfle i gychwyn o’r newydd – dalen lân i gwricwlwm newydd, os mynnwch.”

“Rydym wedi galw am fwy o ryddid i athrawon fod yn hyblyg ac i herio disgyblion yn y dosbarth. Mae cwricwlwm llai deddfol yn rhoi mwy o ryddid i athrawon a mwy o gyfrifoldeb hefyd. Felly mae’n rhaid i ni adeiladu galluedd y gweithlu addysg. 

“Mae angen i ysgolion alluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau mae arnynt eu hangen mewn economi gystadleuol fyd-eang, a hefyd y sgiliau maent eu hangen ar gyfer bywyd. Rydym wedi galw ers meitin am i lythrennedd digidol gael statws cyfartal â llythrennedd a rhifedd, ac i ddisgyblion ddysgu sut i greu yn ogystal â defnyddio technoleg.

“Rydym wedi galw am ddiwygio dysgu Cymraeg fel ail iaith a chredwn mai defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu yn hytrach nac fel pwnc yw’r ffordd orau i roi cyfle i ddisgyblion ddod yn ddwyieithog. Dylai’r holl blant yn ysgolion Cymru adael addysg gyda dealltwriaeth gadarnhaol o hanes Cymru a diwylliannau eu cymunedau.

“Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth fod angen arfogi pobl ifanc i fod yn ddysgwyr gydol oes ac, yn ogystal â meddu ar gymwysterau da pan fyddant yn gadael yr ysgol, y dylent ddeall dinasyddiaeth, iechyd a lles.

“Galwodd Plaid Cymru am i ddinasyddiaeth gael ei ddysgu mewn ysgolion, am ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol disgyblion, ac am sicrhau fod pob disgybl yn derbyn addysg gorfforol o ansawdd dda sy’n berthnasol i’w hanghenion a’u diddordebau.”

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r canlynol:

•           4 pwrpas y cwricwlwm, datblygu disgyblion fel:  dysgwyr gydol oes, cyfranwyr mentrus a chreadigol, dinasyddion Cymru a’r byd, iechyd a lles.

•           6 maes dysgu: celfyddydau mynegiannol; iechyd alles; dyniaethau; ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg

•           Dysgu llythrennedd, rhifedd a medr digidol ar draws y cwricwlwm

•           Continwwm dysgu 3-16 – dim cyfnodau allweddol - 5 cam cynnydd yn fras yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed

•           cyflwyno map llwybr i bob plentyn unigol yn hytrach na disgwyliadau cyffredinol

•           Gosod deilliannau cyrhaeddiad am bob cam cynnydd – dylai’r rhain  ymwneud a phedwar pwrpas y cwricwlwm– ymdeimlad bras o lwyddiant yn hytrach na’r academaidd cul

•           Dylai pob plentyn wneud cynnydd ar hyd yr un continwwm waeth beth fo’u Hanghenion Dysgu Ychwanegol

•           Cymraeg yn orfodol hyd at 16, canolbwyntio ar y Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu; manteision gwybyddol a masnachol yr iaith Gymraeg a galluogi dealltwriaeth o orffennol a bywyd diwylliannol Cymru

•           Buddsoddi mewn cryfhau’r ddarpariaeth iaith mewn ysgolion cynradd er mwyn gosod sylfaen gref ar gyfer dysgu Cymraeg ac ieithoedd eraill yn yr ysgol uwchradd

•           Ysgolion cyfrwng Cymraeg i weithredu fel canolfannau i gefnogi ysgolion cyfrwng Saesneg

•           Ailwampio cymwysterau iaith Gymraeg yn 16 oed i ganolbwyntio ar siarad, gwrnado a defnyddio yn y man gwaith.

•           Bargen Newydd Llywodraeth Cymru i athrawon a darpar-athrawon i ystyried gwella sgiliau Cymraeg y gweithlu

•           Dylai deddfwriaeth ddiffinio cyfres fras o ddyletswyddau yn hytrach na rhagnodi cynnwys yn fanwl.

Hefyd:

•           Disgyblion 14-16 oed i ddewis cyrsiau neu wneud gweithgareddau o’r 6 maes dysgu

•           Cael profion allanol, safonedig mor anaml ag sydd modd, ond eu defnyddio ar y cyd a phrofion ysgolion ac asesiadau athrawon

•           Bydd angen addasu categoreiddio ysgolion

•           Ni ddylai Llywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth am berfformiad plant a phobl ifanc fesul ysgol, ond dylent fonitro perfformiad yn rhannau allweddol y cwricwlwm trwy brofion blynyddol ar sail samplo.

Rhannu |