Mwy o Newyddion
Y Groes Goch Brydeinig yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg
Gall gwirfoddoli fod yn alwedigaeth hynod o foddhaus ac mae’r Groes Goch Brydeinig yn edrych am ragor o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg i ymuno a’u tîm.
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae’r elusen yn gwahodd bobl lleol i fynychu digwyddiad agored yn eu swyddfa Abergele lle y gallant ddysgu am y gwahanol wasanaethau a ddarperir gan yr elusen yng Ngogledd Cymru. Gallant hefyd sgwrsio â staff a gwirfoddolwyr presennol am y rolau sydd ar gael. Bydd lluniaeth a bwyd traddodiadol Cymreig yn cael ei ddarparu.
Cynhelir y digwyddiad Dydd Gwener 27 Chwefror yn Nhŷ’r Groes Goch, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele LL22 8LJ o 3yh i 6yh.
Dywedodd Dewi Jones, Gweithiwr Datblygu Gwirfoddoli yn y Groes Goch: “Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn dangos bod angen o fewn y sector gwirfoddol ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r Groes Goch wedi ymrwymo i fodloni’r angen hyn ac yn cydnabod pwysigrwydd o allu cynnig ein gwasanaethau i fuddiolwyr sy’n siarad Cymraeg yn eu dewis iaith.”
Mae’r Groes Goch yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i gefnogi ei wasanaeth Gofal, sydd yn cefnogi bobl ynysig ac agored i niwed ledled Gogledd Cymru ac enillodd Gwobr Trydydd Sector Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn ddiweddar.
Mae’r gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr elusen sydd angen mwy o wirfoddolwyr yn cynnwys gwasanaeth gartref o’r ysbyty, trosglwyddo cleifion a phrosiectau addysg ac ymgysylltu mewn ysgolion uwchradd lleol. Hefyd, mae gwirfoddolwyr cymorth cyntaf yn ymdrin a digwyddiadau cyhoeddus a chwaraeon, mae gwirfoddolwyr ymateb brys yn cael eu defnyddio ar adegau o argyfwng megis yn ystod tywydd garw a gwirfoddolwyr adwerthu yn helpu rhedeg siopau’r Groes Goch yn effeithlon.
Parhaodd Dewi: “Mae gwirfoddoli yn hynod werth chweil ac mae gennym llawer o gyfleoedd ar gael i bobl ddod o hyd i swydd sy’n addas iddyn nhw. Rydym yn dîm cyfeillgar iawn ac yr wyf yn gofyn i unrhyw un a allai gynnig awr neu ddwy yr wythnos i gysylltu â dysgu mwy am waith amrywiol y Groes Goch – mae yna rhywbeth i bawb yma.”
Mae digwyddiad agored gwirfoddoli y Groes Goch yn digwydd yn Ty’r Groes Goch, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, LL22 8LJ o 3yh i 6yh.
Gall y rhai sy’n dymuno cael gwybod mwy am y digwyddiad agored neu gwirfoddoli yn gyffredinol, gallwch alw 0300 100 neu VolunteeringWales@redcross.org.uk.
Fel arall, ewch i www.redcross.org.uk/Get-involved/Volunteer am fwy o wybodaeth.