Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Chwefror 2015

Condemnio’r gwrthodiad i ganiatáu pleidleisiau i bobl 16 oed yn etholiadau’r Cynulliad

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC  wedi condemnio’r ffaith fod Llywodraeth y DG wedi gwrthod caniatáu i’r Cynulliad Cenedlaethol gael y pŵer i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Ymateb yr oedd Leanne Wood i lythyr at y Prif Weinidog gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn dweud na neilltuwyd unrhyw amser Seneddol i newid yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Meddai Leanne Wood: “Mae hwn yn benderfyniad siomedig. Mae pawb, bron, yn cytuno fod angen dwyn pobl ifanc i mewn i’r broses wleidyddol, ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod rhoi’r cyfle i’r Cynulliad Cenedlaethol roi’r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed. Dylai hyn fod yn fater i’r Cynulliad beth bynnag, nid i San Steffan. Mae’n annoeth i’r eithaf.

“Dylai Llywodraeth y DG fod yn gwneud popeth yn eu gallu i ehangu democratiaeth er mwyn cynnwys mwy o bobl ifanc.

“Yr oedd Refferendwm yr Alban yn ymarferiad gwych mewn dwyn pobl ifanc i mewn yn llawn i ddemocratiaeth, ac eto, mae ein Cynulliad Cenedlaethol ni yn cael ei atal rhag gwneud yr un peth. Mae hwn yn ddiwrnod drwg i Gymru ac yn ddiwrnod drwg i ddemocratiaeth. Unwaith eto, mae pobl Cymru yn cael bargen wael.”

Yn ei lythyr, dywedodd Stephen Crabb: “Rwyf o’r farn ei bod yn hanfodol fod materion yn ymwneud ag etholiadau’r Cynulliad yn cael eu hystyried fel pecyn cynhwysfawr, o fewn proses Gŵyl Ddewi, yn hytrach na chael eu trin yn unigol.

“Ni wnaed unrhyw ddarpariaeth seneddol felly i newid yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad nac i ddatganoli i’r Cynulliad y pwer i benderfynu a allai pobl 16 ac 17 oed bleidleisio neu beidio yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.”

Rhannu |