Mwy o Newyddion
Canfod trysor ar Ynys Môn
Ddoe (25 Chwefror 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Gogledd Orllewin Cymru bod celc o bedwar arteffact aur a chopr y credir eu bod yn dyddio o tua 1000-800 CC, neu 3,000-2,800 o flynyddoedd yn ôl, yn drysor.
Cafodd y celc, sy’n cynnwys modrwy aur fylchgrwn a thri darn ingot copr, ei ddarganfod yng nghymuned Cwm Cadnant ym mis Mai a Mehefin 2013 gan Mr Philip Cooper.
Cafodd yr arteffactau eu canfod ychydig fetrau ar wahân wrth i Mr Cooper ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm. Cafodd yr arteffactau eu claddu yn wreiddiol gyda'i gilydd mewn un celc ond roeddent wedi cael eu symud a’u gwahanu, oherwydd gwaith ffermio diweddarach mae’n debyg.
Cafodd y darganfyddiad ei adrodd yn gyntaf i Ian Jones, curadur yn Oriel Ynys Môn, Llangefni, a Roland Flook archaeolegydd curadurol o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd cyn i archaeolegwyr yn Amgueddfa Cymru gael eu hysbysu.
Mae’r fodrwy aur wedi’i haddurno gyda stribed arian sydd wedi’i throelli o amgylch y band aur. Mae dau ben y fodrwy yn fflat, gyda bwlch rhyngddynt. Efallai mai modrwy wallt, addurn bychan o’r Oes Efydd, ydyw, ond mae’n bosibl mai fel clustdlws y câi ei defnyddio, gyda’r band cyfan yn mynd trwy dwll yn llabed y glust. Mae un ochr o’r fodrwy wedi gwisgo’n denau o gael ei defnyddio gan ei pherchennog gwreiddiol.
Mae nifer arwyddocaol o fodrwyau gwallt yn cael eu darganfod ledled Iwerddon a Lloegr, gyda rhai hefyd yn yr Alban, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd. Yng ngogledd orllewin Cymru, mae enghreifftiau tebyg wedi eu canfod yn Nhrearddur, Ynys Môn a Graianog, Gwynedd.
Mae ingotau copr ac efydd siâp plano-amgrwm yn aml yn cael eu canfod mewn celciau o ddiwedd yr Oes Efydd. Caent eu cludo a’u cyfnewid dros y môr a’u defnyddio fel deunydd crai i greu offer ac arfau efydd.
Wedi cael ei brisio yn annibynnol, bydd y celc yn cael ei gaffael gan Oriel Ynys Môn, gan ddefnyddio arian o fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru: “Mae’r fodrwy wallt aur yn un gelfydd, oedd yn cael ei gwisgo gan ddyn neu fenyw o bwys o fewn eu cymuned. Gallai’r aur fod wedi dod o Gymru neu Iwerddon. Mae gan y darnau o ingot copr gysylltiad pwysig â’r fodrwy. Byddai’n ddiddorol gwybod os cawsant eu cludo a’u cyfnewid o bell, neu eu creu o fwynau lleol Mynydd Parys neu’r Gogarth.”
Dywedodd Ian Jones, Swyddog Curadurol yn Oriel Ynys Môn, Llangefni: “Bydd y trysorau lleol cyffrous hyn yn cyfoethogi ein casgliadau presennol, ac yn rhoi cyfle i’n hymwelwyr weld enghraifft o addurn cywrain gafodd ei wisgo ddiwethaf yn ystod yr Oes Efydd. Mae’r darganfyddiadau hefyd yn pwysleisio gwerth metalau megis aur, copr ac efydd fel nwyddau i’w cyfnewid a’u defnyddio.
“Mae’n bleser cael gweithio gydag Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a gallu sicrhau arian trwy gyfrwng project Saving Treasures, Telling Stories Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r person wnaeth ddarganfod y trysor a’r tirfeddiannwr am eu cydweithrediad parod.”