Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Chwefror 2015

Bangor yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd

Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi ennill safle uchel i'r brifysgol unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. 

Lansiwyd UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd, gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd

 Bob blwyddyn mae nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan yn cynyddu; yn y gynghrair bresennol gwnaeth 360 o brifysgolion o 62 o wledydd gystadlu a rhoddwyd Bangor yn safle 28.
 
Meddai'r Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes: "Rwy'n falch iawn bod Bangor yn parhau i ddal gafael ar ei safle fel arweinydd cynaliadwyedd yn y sector addysg uwch yn rhyngwladol. Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i weithredu'n gadarnhaol i hyrwyddo cynaliadwyedd a gwella’r amgylchedd yn barhaus."
 
Meddai Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol yn yr adran Ystadau a Chyfleusterau: "Rydym yn parhau i wneud cynnydd sylweddol nid yn unig yn y DU ond yn fyd-eang, fel y dangosir gan ein llwyddiant diweddar i gael safon amgylcheddol ISO14001 a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn ogystal, rydym wedi ennill tystysgrif amgylcheddol Draig Werdd Cymru ers 2009".
 
Ymatebodd Dr Einir Young, Pennaeth Datblygiad Cynaliadwy, Prifysgol Bangor i'r cyhoeddiad trwy ddweud: "Mae ein hymdrechion yn arwain gwelliannau amgylcheddol ac effeithlonrwydd o ran adnoddau ym mhob rhan o'r sefydliad yn dechrau dwyn ffrwyth.  Rydym yn sylweddol bod yr amgylchedd yn ddim ond un agwedd ar yr agenda datblygu cynaliadwy, ac rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar integreiddio arfer gynaliadwy i bopeth a wnawn, trwy ein hymchwil, ein dysgu a'n cadwyn cyflenwi ein hunain". 

Llun: Yr Athro John G. Hughes

Rhannu |