Mwy o Newyddion
Dod â'r oesoedd canol i'r oes ddigidol
Fe fydd hanes yr oesoedd canol nawr yn fyw ar flaenau bysedd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, diolch i ddatblygiad adnoddau digidol cyffrous gan Brifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bwriad y prosiect, sy’n cael ei arwain gan Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg y brifysgol a’i ariannu gan y Coleg Cymraeg, yw hyrwyddo astudio hanes yr oesoedd canol yn gyffredinol i fyfyrwyr prifysgol a disgyblion blwyddyn 12 a 13 mewn ysgolion uwchradd.
Yn 2011 a 2012 fe benodwyd dau o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg ym maes hanes yr oesoedd canol, ym Mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg. Bydd yr adnoddau newydd hyn, felly, yn atgyfnerthu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd eisoes ar gael mewn prifysgolion yng Nghymru.
Meddai Cerys Hudson, Swyddog y prosiect: “Bydd yr adnoddau’n gymorth i fyfyrwyr i drin a thrafod testunau drwy gyfrwng y Gymraeg a byddant ar gael i fyfyrwyr ym mhob prifysgol yng Nghymru a thu hwnt. Gobeithir y bydd adnoddau o’r fath yn denu rhagor o fyfyrwyr i astudio hanes yr oesoedd canol yn y brifysgol, yn ogystal â bod o ddiddordeb ehangach i unrhyw un sydd yn awyddus i ddysgu mwy am ein gorffennol.”
Bydd detholiad amrywiol o ffynonellau’n cael eu cyhoeddi’r mis hwn – yn eu plith: Gerallt Gymro ac Oes y Tywysogesau yng Nghymru, hanesyddiaeth yr oesoedd canol, detholiadau o ffynonellau wedi'u cyfieithu a chwisiau. Bydd rhagor o adnoddau yn cael eu hychwanegu i’r casgliad wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.
Mae’r adnoddau wedi’u cyhoeddi ar Y Porth, llwyfan e-ddysgu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.