Mwy o Newyddion
Rhaid gweithredu ar unwaith i helpu ffermwyr llaeth
Tra’n cefnogi Rhybudd Gynnig oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaethau newydd i ddelio â'r cwymp difrifol mewn prisiau llaeth i ffermwyr, cynigodd y Cynghorydd Ken Howells o Blaid Cymru welliant oedd yn annog Llywodraeth y DU i weithredu argymhellion y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ( EFRA ) sy'n nodi dulliau ymarferol o helpu ffermwyr llaeth.
Derbyniodd y Cyngor llawn y Cynnig, gyda gwelliant y Blaid, yn unfrydol.
Bu’n rhaid i ddau ffermwr llaeth ar grŵp Plaid Cymru ddatgan diddordeb a gadael yn ystod y drafodaeth. Ar ôl hynny, bu’r ddau yn siarad am yr anawsterau difrifol sy'n wynebu ffermwyr sy’n cynhyrchu llaeth ar golled.
"Dros y 10 mlynedd diwethaf mae nifer y ffermwyr llaeth ym Mhrydain wedi haneru," meddai'r Cynghorydd Jean Lewis, sy'n ffermio ym Meidrim. "Mae hyn wedi cael effaith ddifrifol ar gymunedau gwledig yn gyffredinol, ond bydd pethau'n mynd yn waeth oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd i helpu’r ffermwyr llaeth sy’n weddill. Maent yn helpu cynnal swyddi yng nghefn gwlad, ysgolion lleol, yr amgylchedd a'r iaith a'r diwylliant Cymraeg."
Mae bron pob diferyn o laeth a gynhyrchir yn Sir Gâr yn mynd i lawr yr M4, meddai'r Cyng Gareth Thomas, sy’n ffermio yn yr Hendy, ger Llanelli. " Ar hyn o bryd, mae llaeth yn llifo allan o’r sir i gael ei brosesu neu’i botelu yn Lloegr. Mae'n hanfodol bwysig bod y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau glas i ddenu busnesau prosesu llaeth i orllewin Cymru. Rwy'n adnabod nifer fawr o bobl, mewn gwahanol feysydd, sy'n dibynnu ar ffermwyr llaeth fel fi i wneud bywoliaeth. Bydd dirywiad y diwydiant llaeth yn cael effaith ddinistriol ar eu bywoliaeth hwy hefyd."
Llun: Cyng Jean Lewis