Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Chwefror 2015

Y gwrw garddio Monty Don i annerch dathliad o arddwriaeth Gymreig

Mae’r awdur a’r darlledwr garddio adnabyddus Monty Don wedi cael ei gadarnhau fel y prif siaradwr mewn dathliad o arddwriaeth Gymreig a gynhelir y mis nesaf..

Ddydd Llun 9 Mawrth, bydd prosiect effeithlonrwydd cadwynau cyflenwi Garddwriaeth Cymru yn cynnal ‘Dod â Thyfwyr at ei Gilydd’ yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin, sef cynhadledd undydd benodol ar gyfer tyfwyr ffrwythau, llysiau, blodau, planhigion a choed, ynghyd â chynrychiolwyr eraill o’r diwydiant garddwriaethol ehangach.

Yn y gynhadledd, bydd Monty yn trafod ei athroniaeth am dyfu ac yn adrodd straeon am ei yrfa lewyrchus. Yn ogystal, bydd Stephen Hedderly, Rheolwr Gyfarwyddwr Bedfordshire Growers – un o gydweithfeydd llysiau mwyaf a mwyaf llwyddiannus y DU – yn siarad am y cyfleoedd y mae gweithio ar y cyd yn eu cynnig, tra bydd Simon Goodenough, Curadur Garddwriaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn edrych ar rôl gerddi botaneg yn yr 21ain ganrif a’r modd y gallant feithrin cysylltiadau gyda thyfwyr masnachol.  

Bydd y mynychwyr hefyd yn cael cymryd rhan mewn sesiwn rhwydweithio cyflym hwyliog ac anffurfiol o’r enw ‘Meithrin Cysylltiadau’, gan roi cyfle gwych iddynt gyfarfod tyfwyr eraill o bob cwr o Gymru a rhannu eu profiadau.

Meddai Dr David Skydmore, Cyfarwyddwr Prosiect Garddwriaeth Cymru: “Bydd y digwyddiad yma yn llwyfan delfrydol lle gall tyfwyr a’r sector garddwriaethol ehangach yng Nghymru gyfarfod, rhannu syniadau a mewnwelediadau, a thrafod yr heriau y mae ein diwydiant yn eu hwynebu.” 

Cynhelir y gynhadledd ‘Dod â Thyfwyr at ei Gilydd’ o 10:00am tan 4:00pm, a darperir cynio bwffe organig o darddiad Cymreig i’r mynychwyr.

Gofynnir i dyfwyr ac eraill sy’n gweithio yn y sector garddwriaeth Gymreig sy’n awyddus i fynychu’r gynhadledd gofrestru o flaen llaw cyn gynted â phosibl. Am fanylion pellach cysylltwch â Garddwriaeth Cymru ar (01978) 293967, ebostiwch horticulturewales@glyndwr.ac.uk, neu ewch i www.horticulturewales.co.uk. 

Mae Garddwriaeth Cymru yn darparu cefnogaeth arbenigol, ffocysedig i hybu effeithlonrwydd busnesau sy’n gysylltiedig â’r cadwynau cyflenwi garddwriaeth bwyd ac amwynderau fel ei gilydd yng Nghymru. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.horticulturewales.co.uk, ffoniwch 01978 293967, ebostiwch horticulturewales@glyndwr.ac.uk, neu dilynwch ni ar Twitter @Hortwales.

Rhannu |