Mwy o Newyddion
Gwariant Llafur ar Deithio Llesol yn cwympo ym mlwyddyn gyntaf y Ddeddf
Mae Plaid Cymru wedi herio Llywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i wella darpariaethau ar gyfer beicio a cherdded wedi i ffigyrau a ddatgelwyd gan y blaid ddangos fod gwariant y llywodraeth wedi cwympo ers cyflwyno’r Ddeddf Teithio Llesol.
Holodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi a Menter, Rhun ap Iorwerth, Weinidog yr Economi a herio Llywodraeth Cymru eu bod o ddifrif am gyflawni uchelgais y Ddeddf Teithio Llesol.
Cefnogodd Plaid Cymru y ddeddfwriaeth, sy’n gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i gynllunio a mapio rhwydwaith o lwybrau ar gyfer cerdded a beicio; ond gwnaeth hi’n amlwg y byddai angen cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Dengys ffigyrau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ym mlwyddyn gyntaf gweithrediad y Ddeddf, 2014/15, fod gwariant ar gerdded a beicio gan yr adran gyfrifol wedi dirywio o gymharu â’r flwyddyn flaenorol – o £13.13m i £11.79m. Yn yr un flwyddyn, torrwyd y setliad llywodraeth leol o 3.4%, neu £148m, oedd yn golygu na ellid mewn difrif ddisgwyl i awdurdodau lleol ysgwyddo’r straen.
Wedi herio’r Gweinidog, meddai’r Gweinidog cysgodol dros yr Economi a Menter, Rhun ap Iorwerth AC: “Mae Cymru wedi pasio deddfwriaeth dda am Deithio Llesol. Roedd Plaid Cymru yn ei gefnogi. Ond fe wnaethom rybuddio hefyd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru wario mwy. Ym mlwyddyn gyntaf y Ddeddf, aeth Gweinidogion Llafur tuag yn ôl o ran gwario.
“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur ddangos eu bod o ddifrif. Maent yn aml yn llefaru’r geiriau iawn, ond wedyn ddim yn cyflawni. Dyddiau cynnar y Ddeddf yw’r rhain, ac y mae cyfle yn awr i gael y gyllideb yn iawn am y blynyddoedd i ddod. Mewn cyfnod o lymder, mae modd er hynny flaenoriaethu adnoddau. Rydym wedi gweld symiau mawr wedi eu neilltuo i ffyrdd a thraffyrdd, ond gallai cyfran fechan o’r buddsoddiad hwnnw wneud gwahaniaeth enfawr i gerdded a beicio.
“Erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, mae angen i ni weld y lefelau gwariant cyffredinol hynny yn codi uwchlaw’r hyn yr oeddent dan lywodraeth Cymru’n Un. Os nad yw Llafur yn bwriadu gwneud hyn, fe ddylent roi’r gorau i’w rhethreg am greu cenedl fwy cynaliadwy a llesol, oherwydd nid yw eu cynlluniau gwariant yn cyfateb i hynny. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael cyfle teg i gyflwyno’r hyn y mae eu cymunedau angen ar gyfer cerdded a beicio.”