Mwy o Newyddion
Strwythur prisiau parcio newydd i Wynedd
Mae adroddiad fydd yn cael ei chyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 19 Chwefror yn argymell diweddaru a safoni’r strwythur ffioedd parcio ar draws y sir.
Dyma fyddai’r tro cyntaf i unrhyw newid cael ei gyflwyno i’r strwythur ers wyth mlynedd ac mae’n dilyn adolygiad cynhwysfawr o reolaeth parcio ledled y sir, ymgysylltu ac ymchwilio i mewn i reolaeth parcio effeithiol mewn ardaloedd eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faterion parcio: “Mae ffioedd parcio wedi eu rhewi yng Ngwynedd ers Ebrill 2007. O ganlyniad, mae’r argymhellion sy’n cael eu hargymell yn golygu diweddaru ffioedd ac ymgorffori effeithiau chwyddiant a newidiadau TAW dros yr wyth mlynedd diwethaf.
“Rydym wedi gwneud pob ymdrech i gadw’r cynnydd i isafswm ac mewn rhai achosion bydd ffioedd yn is dan y strwythur arfaethedig. Byddem hefyd yn tanlinellu y bydd cyfran o unrhyw incwm a dderbynnir yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwella’r ddarpariaeth parcio ar draws y sir yn ogystal â chwtogi’r angen am doriadau sylweddol mewn gwasanaethau hanfodol eraill sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.
“Mae’r strwythur sy’n cael ei argymell yn gosod cyfeiriad a chyd-destun ar gyfer rheoli parcio yn gytbwys ac effeithiol yng Ngwynedd i’r dyfodol.”
Fel rhan o’r adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor mae argymhelliad hefyd i ystyried cyflwyno trefniadau talu ac arddangos mewn nifer o feysydd parcio’r Cyngor sydd am ddim i’w defnyddio ar hyn o bryd. Byddai’r newidiadau yma a fyddai’n cael eu cyflwyno yn raddol dros y ddwy i dair blynedd nesaf yn golygu uwchraddio safon y meysydd parcio yma, gyda 19 maes parcio sydd ar hyn o bryd am ddim yn dod yn feysydd arhosiad hir, gyda phedwar maes parcio arall yn dod yn feysydd parcio talu ac arddangos arhosiad byr.
Byddai newidiadau i’r strwythur parcio yn golygu cyflwyno pum categori parcio ar gyfer ardaloedd penodol. Byddai’r rhain wedi eu seilio ar nifer o ystyriaethau yn cynnwys niferoedd siopau manwerthu yn y dref neu bentref, os ydyw’n dref marchnad, atyniad twristaidd neu leoliad hamdden poblogaidd, gyda ffioedd wedi eu gosod yn unol â hynny.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Mae gwaith ymchwil yn dangos fod rheolaeth parcio effeithiol yn gwneud cyfraniad cadarnhaol ar gyfer cynnal yr economi leol. Byddai’r strwythur parcio arfaethedig newydd yn gweld meysydd parcio arhosiad byr ger canol trefi er mwyn annog trosiant cyson o siopwyr tra’n rheoli capasiti. Yn ogystal, byddai rhai ffioedd mewn meysydd parcio arhosiad hir yn is o dan y strwythur newydd, gyda’r nod o annog trigolion ac ymwelwyr i dreulio mwy o amser yn ein trefi a’n pentrefi.
“Fel rhan o’r trefniadau newydd, byddem hefyd yn gwneud i ffwrdd â’r angen blynyddol i benderfynu ar barcio am ddim dros gyfnod y Nadolig ac ymrwymo i ddarparu parcio am ddim bob blwyddyn yn y cyfnod yn arwain at yr Ŵyl er mwy annog trigolion lleol i gefnogi siopau a busnesau Gwynedd.”