Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Chwefror 2015

Gwahardd smygu mewn ceir sy’n cludo plant yng Nghymru o 1 Hydref

Ar 1 Hydref 2015 bydd gwaharddiad yn cael ei gyflwyno yng Nghymru ar bobl yn smygu mewn ceir sy’n cludo plant, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford heddiw (dydd Iau 12 Chwefror 2015).

Daw’r penderfyniad hwn i gyflwyno gwaharddiad yn sgil y ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fynd i’r afael â’r mater o smygu mewn ceir pan fydd  plant yn bresennol.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y gwaharddiad, sy’n amodol ar gymeradwyaeth Aelodau’r Cynulliad, yn amddiffyn plant rhag peryglon y mae modd eu hosgoi sy’n gysylltiedig â mwg tybaco, a all arwain at amrywiaeth o glefydau cronig.

Yn ôl gwaith ymchwil mae plant yn arbennig mewn perygl o anadlu mwg ail-law mewn car sy’n gyfyng o ran lle gan nad oes unman iddynt ddianc rhag y cemegau gwenwynig sydd mewn mwg tybaco.

Rhwng 11 Medi 2014 a 24 Hydref 2014 cynhaliwyd ymgynghoriad ar waharddiad arfaethedig.  Cytunodd cyfanswm o 86% o ymatebwyr y dylid gwahardd smygu mewn cerbydau preifat pan fydd plant dan 18 oed yn bresennol.

Bydd y newidiadau’n dod yn rhan o’r deddfau di-fwg presennol. Caiff rheoliadau eu cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd:

* Yn ei gwneud yn drosedd smygu mewn cerbyd preifat pan fydd rhywun dan 18 oed yn bresennol;

* Yn ei gwneud yn drosedd peidio ag atal smygu mewn cerbyd preifat pan fydd rhywun dan 18 oed yn bresennol.

Bydd y rheoliadau’n destun pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol yn yr haf, ac os cânt eu cymeradwyo gan yr Aelodau, byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2015. Mae hyn yn unol â chynigion tebyg yn Lloegr.

Swyddogion yr heddlu fydd yn gorfodi’r ddeddf newydd arfaethedig hon yn bennaf, ar y cyd â’u swyddogaethau ehangach yn ymwneud â diogelwch ffyrdd. Bydd dirwy o £50 yn y fan a’r lle yn cael ei rhoi i bobl sy’n cael eu dal yn torri’r ddeddf newydd.

Mae smygu’n achosi niwed difrifol i iechyd smygwyr a’r rhai nad ydynt yn smygu sy’n dod i gysylltiad â mwg ail-law. Smygu yw prif achos salwch a marwolaethau cynamserol y gellid eu hosgoi yng Nghymru, gan achosi tua 5,450 o farwolaethau yng Nghymru yn 2010.

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i anadlu awyr lân a mwynhau amgylcheddau di-fwg.

“Gall amddiffyn plant rhag anadlu mwg ail-law eu helpu nhw i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae anadlu mwg ail-law yn fygythiad difrifol i iechyd plant; mae’n gallu achosi iddyn nhw fod yn agored i amrywiaeth o gyflyrau iechyd fel heintiau’r pibellau anadlu isaf, asthma, clefyd y glust ganol a heintiau difrifol eraill.

“Bydd cyflwyno rheoliadau i atal pobl rhag smygu mewn ceir sy’n cludo plant yn ein helpu i wneud hyn.”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Ruth Hussey: “Dyw plant ddim yn gallu dianc rhag y cemegau gwenwynig sydd mewn mwg ail-law pan fyddan nhw’n teithio mewn cerbydau.

“Bydd newid y gyfraith i wahardd smygu mewn ceir sy’n cludo plant yn eu hamddiffyn rhag y niwed sy’n gysylltiedig ag anadlu mwg ail-law mewn cerbydau preifat, yn annog smygwyr i gymryd camau i ddiogelu plant rhag mwg ail-law, ac yn arwain at leihau nifer y cyflyrau iechyd ymysg plant sy’n cael eu hachosi gan fwg ail-law.”

Llun: Mark Drakeford

Rhannu |