Mwy o Newyddion
Lansio canllaw dylunio dwyieithog
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Canllaw Dylunio Dwyieithog. Nod y canllaw yw rhannu’r arferion gorau wrth ddylunio’n ddwyieithog.
Cafodd y canllaw ei lansio yn y Coleg Merthyr Tudful, gan Gomisiynydd y Gymraeg a chynrychiolwyr o Golegau Cymru a Choleg Merthyr Tudful.
Wrth lansio’r canllaw, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Mae yna enghreifftiau da a gwael o ddylunio dwyieithog o’n hamgylch ym mhobman, o arwyddion ffyrdd ac arwyddion archfarchnadoedd i hysbysebion ar ochrau bysiau, o becynnau nwyddau i daflenni gwybodaeth.
“Wrth fynd ati i hybu a hwyluso’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, un pwnc yr wyf yn ei glywed dro ar ôl tro yw’r angen am gyngor ar sut i fynd ati i ddylunio’n ddwyieithog mewn modd creadigol, cyson, cywir ac ar gost resymol.
“Bwriad y canllaw yw rhannu’r arferion gorau posibl wrth fynd ati i ddylunio’n ddwyieithog. Mae wedi ei anelu at unrhyw sefydliad, hyd yn oed os nad oes gofyn statudol arnynt i weithredu yn Gymraeg a’r Saesneg.
“Wrth lansio’r canllaw mewn coleg addysg bellach, rwy’n gobeithio sicrhau bod gan ddylunwyr y dyfodol y ddealltwriaeth a’r sgiliau priodol ar gyfer ymgymryd â gwaith dylunio mewn gwlad ddwyieithog.”
Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd Colegau Cymru: “Mae cyhoeddi’r canllaw hwn yn cydblethu’n dda gyda gwaith sydd gennym ar droed gyda’r colegau addysg bellach a chyrff eraill.
“Gyda’r cyfleoedd dwyieithog yn tyfu bob blwyddyn yn y colegau, hyderaf y bydd myfyrwyr sy’n astudio amryfal bynciau megis busnes, gofal cwsmer, marchnata a dylunio yn cael gwerth o’r canllaw hwn yn ystod eu hamser yn y coleg a’r tu hwnt, wrth iddynt symud ymlaen i’r byd gwaith.
“Yn ogystal, ar gyd-ddigwyddiad hapus, mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyflwyno cystadleuaeth newydd sbon eleni ar ddylunio dwyieithog, mewn cyd-weithrediad â Cholegau Cymru. Dwi’n siŵr bod pob un o’r cystadleuwyr yn awchu i gael gafael ar y canllaw ac y bydd safon yn y gystadleuaeth yn elwa ohono!”
Dywedodd John O’Shea, Pennaeth y Coleg Merthyr Tudful: “Mae’n bleser croesawu’r Comisiynydd i’r coleg ac i fod gyda’r cyntaf i weld y canllaw newydd hwn.
“Mae dylunio dwyieithog da yn bwysig i ni i gyd, boed y Gymraeg neu'r Saesneg yw ein hiaith ddewisol. Er mwyn cyflwyno neges glir, rhaid cael dylunio pwrpasol sy'n cyflwyno’r naill iaith a’r llall yn effeithiol.
“Bydd y canllaw dylunio dwyieithog hwn yn cefnogi’r coleg yn y gwaith o baratoi myfyrwyr i weithio mewn gwlad ddwyieithog, boed yng Nghymru neu’r tu hwnt.
“Bydd hefyd o ddefnydd i ni fel corff sy’n darparu deunyddiau dwyieithog i’n cynulleidfaoedd, gan gynnwys ein myfyrwyr, ein cymunedau a’n busnesau lleol.”