Mwy o Newyddion
Gofal y GIG yn bodloni mwy na naw o bob 10 person yng Nghymru yn ôl arolwg mawr
Mae arolwg mawr wedi datgelu bod mwy na naw o bob 10 o bobl (92%) yn Nghymru yn fodlon gyda’r gofal y maen nhw’n ei gael gan eu meddyg teulu, a bod 91% yn fodlon gyda’r gofal y maent yn ei gael gan ysbytai.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg wyneb yn wyneb gyda phobl ledled Cymru. Bob blwyddyn, caiff 14,500 o bobl 16 oed a throsodd eu holi am eu barn ar amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio arnyn nhw a’u hardal leol.
Yn 2013-14, roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cwestiynau ynghylch boddhad cyffredinol gyda gwasanaethau iechyd, boddhad gyda gofal, mynediad at ofal a chyswllt gyda chleifion. Caiff y canlyniadau eu defnyddio i fesur cynnydd yn erbyn ymrwymiadau ac amcanion allweddol Llywodraeth Cymru.
Yn ôl yr arolwg:
* llwyddodd 94% o’r bobl a aeth am apwyntiad ysbyty yn y 12 mis diwethaf i gael penodiad ar ddyddiad ac amser cyfleus;
* roedd 77% o’r bobl a holwyd wedi gweld meddyg teulu am eu hiechyd yn y 12 mis diwethaf. O’r rheini, roedd 92% yn fodlon (68% yn fodlon iawn a 24% yn eithaf bodlon) â’r gofal a gawsant;
* roedd 84% o bobl yn dweud bod eu meddyg teulu yn gwybod yr holl wybodaeth berthnasol amdanynt, a dywedodd 90% o bobl eu bod nhw neu eu gofalwr wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol yn yr apwyntiad meddyg teulu;
* roedd 41% o’r bobl a holwyd wedi bod am apwyntiad ysbyty yn y 12 mis diwethaf. O’r rhain, roedd 91% yn fodlon (70% yn fodlon iawn a 21% yn eithaf bodlon) â’r gofal a gawsant;
* roedd hi ychydig yn anoddach i bobl mewn gwaith gael apwyntiad cyfleus gyda meddyg teulu, gyda 39% o’i gymharu â 36% o bobl nad ydynt mewn gwaith.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod gan bobl Cymru hyder yn y Gwasanaeth Iechyd, ac yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig.
“Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn gwneud gwaith rhagorol ddydd a nos. Rydyn ni’n darparu gwasanaeth ar raddfa anferthol i boblogaeth o dair miliwn o bobl.
“Ar adegau, fydd pobl ddim yn cael y safon uchel o wasanaeth rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw ei gael. Ond profiad arferol rhywun sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yw boddhad mawr gyda’r gofal sy’n cael ei ddarparu gan feddygon teulu ac ysbytai.
“Fodd bynnag, mae’r canlyniadau hyn hefyd yn dangos bod rhai pobl yn cael anhawster wrth drefnu apwyntiad gyda meddyg teulu. Dyna pam ein bod ni wedi gwneud ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i’w gwneud yn haws i bobl mewn gwaith gael gwasanaethau meddyg teulu, ac wedi cyhoeddi buddsoddiadau newydd mewn gofal sylfaenol.
“Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn dangos eto sut mae pobl ledled Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu sut rydym yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n gwneud gwaith eithriadol o ran cynnig safonau gofal rhagorol, sydd am ddim i bawb yng Nghymru yn y man darparu.”