Mwy o Newyddion
Bywyd gwyllt yn denu cwnstabl gwirfoddol
Mae’r Heddlu wedi recriwtio arbenigwr bywyd gwyllt i roi hwb iddynt yn eu brwydr yn erbyn troseddau cefn gwlad yng ngogledd Cymru.
Yn ôl Cwnstabl Gwirfoddol Phil Roberts, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, roedd cael ymuno â’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad "yn un o’i freuddwydion".
Yn ogystal â bod yn wyliwr adar brwd gydol ei oes, mae gan y swyddog gwirfoddol radd mewn sŵoleg a gradd meistr mewn gwyddorau biolegol uwch.
Sefydlwyd y Tîm Troseddau Cefn Gwlad gan Heddlu Gogledd Cymru ar gais Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick CB QC.
Ers i’r Tîm gael ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl gwelwyd gostyngiad mawr o 40 y cant yn y nifer o droseddau cefn gwlad sy’n digwydd – a chynnydd yn y nifer o erlyniadau.
Mae’r troseddau hyn yn cynnwys pethau mor amrywiol a dwyn anifeiliaid, dwyn peiriannau fferm, cloddio moch daear a dwyn wyau adar prin.
Mae Phil, 27, yn un o 122 Swyddog Gwirfoddol Ngogledd Cymru ac mae’r heddlu wedi lansio ymgyrch recriwtio i ddod o hyd i ragor o bobl fel fo sydd â chymwysterau academaidd da yn arbennig yn y cymunedau gwledig, ac maen nhw’n awyddus hefyd i gael rhagor o siaradwyr Cymraeg.
Mae swyddogion gwirfoddol yn gwneud popeth y mae’r swyddogion arferol yn ei wneud ac mae’r un pwerau yn union ganddynt. Mae’n rhaid iddynt ymrwymo i gyflawni o leiaf 16 awr y mis o oriau dyletswydd er bod unigolion yn gallu teilwra eu horiau i gyd-fynd â’u hamgylchiadau unigol.
Ar ôl gweithio fel casglwr troliau archfarchnad i ariannu ei astudiaethau, mae Phil erbyn hyn wedi cael swydd fel technegydd labordy ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion
Ond mae Phil yn benderfynol o barhau â’i ddyletswyddau fel Cwnstabl Gwirfoddol, gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ers mis Medi 2013.
Meddai Phil: "Mae gwyddoniaeth yn bwysig iawn i mi, ond mae fy ngwaith fel Cwnstabl Gwirfoddol a rhoi gwasanaeth plismona effeithiol er mwyn gwneud gwahaniaeth yr un mor bwysig,
"Mae ‘na lawer o blismona gwledig yn digwydd yng ngogledd Cymru. Mae’n rhaid i’r heddlu fynd i’r afael â’r troseddau sy’n digwydd yng nghefn gwlad ac mae hynny’n un o’r rhesymau pam y dewisais Heddlu Gogledd Cymru i ymuno â nhw fel Swyddog Gwirfoddol.
"Dwi’n siŵr y bydd fy ngwybodaeth gefndir yn fy helpu i fel aelod o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad. Dwi’n mwynhau’r gwaith yn ofnadwy."
"Mae ‘na bob amser deimlad o falchder wrth i mi roi fy stwff yn fy locer ar ddiwedd sifft. Does 'na ddim llawer iawn o swyddi eraill fydd yn rhoi’r un math o deimlad i chi."
Mae Mr Roddick yn grediniol yng ngwerth Swyddogion Gwirfoddol ac yn falch dros ben fod Phil wedi ymuno â’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad
Meddai: "Mae nifer o’r Tîm Troseddau Cefn Gwald o gefndiroedd gwledig ac maen nhw’n symud yn gyfforddus ymysg y gymuned wledig ac amaethyddol – maen nhw’n teimlo’u bod yn rhan ohoni.
"Mae’n amlwg eu bod nhw wedi gwneud argraff – gofynnwch i’r undebau amaethyddol a’r ffermwyr.
"Mae Swyddogion Gwirfoddol yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ansawdd plismona boed yn y wlad neu yn ein trefi.
"Mae’r Heddlu Gwirfoddol yn tanlinellu’r egwyddor sylfaenol mai’r heddlu yw’r gymuned a'r gymuned yw’r heddlu.
"Pobl gyffredin o’r gymuned sy’n cyflawni eu dyletswyddau am ddim oherwydd eu bod yn teimlo mai dyma’r peth iawn i’w wneud yw Swyddogion Gwirfoddol.
"Yn aml iawn mae ganddyn nhw sgiliau perthnasol a defnyddiol i’w cyfrannu – fel Phil sy’n wyddonydd ac yn dipyn o arbenigwr mewn materion bywyd gwyllt.
"Mae’r Swyddogion Gwirfoddol yn dod o bob cefndir a dyna yw un o’u nodweddion mwyaf deniadol – maen nhw’n dod a rhywbeth gwahanol i’r cymysgedd, y cymysgedd sy’n gwneud plismona’r hyn ydyw yn y wlad hon.
“Erbyn hyn mae gennym Swyddogion Gwirfoddol yn gweithio efo timau CID, Plismona’r Ffyrdd, Diogelwch Cymunedol a Lleihau Arson, sydd yn rhywbeth newydd iawn. Rydan ni hefyd yn chwilio am bobl gyda chymwysterau mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys cyllid ac IT i fod yn Swyddogion Gwirfoddol.
"Mae Phil yn enghraifft o rywun sy’n cyfrannu’r rhywbeth bach ychwanegol ‘na ac mae’n dra chymwys yn ei faes arbenigol.
"Yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer y 12 mis nesaf, rwyf wedi son yn benodol am Swyddogion Gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn fwy cyffredinol.
"Ryda ni’n recriwtio mwy o Swyddogion Gwirfoddol a gwirfoddolwyr eraill oherwydd bod profiad wedi dweud wrthym fod bod â Swyddogion Gwirfoddol yn ychwanegu gwerth at ansawdd plismona."
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am sut i fod yn Swyddog Gwirfoddol anfon e-bost at SSFSpecialsRecruitment@nthwales.pnn.police.uk neu ffonio 01492 804224 neu ddefnyddio’r hashnod #BeSpecial ar Twitter.