Mwy o Newyddion
Diogelu pobl hŷn Cymru rhag sgamiau
Bydd diogelu pobl hŷn Cymru rhag sgamiau yn destun dadl fawr yng Nghaerdydd ddydd Mawrth (10 Chwefror).
Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira, ac yn tynnu sylw at yr angen am ddiogelwch gwell ar gyfer pobl hŷn ac agored i niwed rhag sgamiau a throseddau ar stepen y drws.
Bob blwyddyn bydd pobl hŷn yng Nghymru yn rhoi miliynau o bunnoedd i bobl sy’n eu twyllo drwy sgamiau dros y ffôn, drwy’r post, ar y rhyngrwyd ac wyneb yn wyneb ar stepen eu drws. Mae’r Sefydliad Safonau Masnach yn amcangyfrif bod sgamiau post uniongyrchol ar eu pen eu hunain yn costio rhwng £5 – £10bn y flwyddyn i ddioddefwyr. Mae dros 50,000 o bobl yn y DU yn anfon arian yn rheolaidd at loterïau ffug, pobl sy’n honni eu bod yn seicig a thwyllwyr eraill.
Mae’r cyfarfod yn cael ei drefnu gan Bartneriaeth Cymru yn erbyn Sgamiau (WASP) a Chanolfan y Celfyddydau Chapter Caerdydd a chaiff ei gynnal ar y cyd ag Age Cymru. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus a chwmnïau preifat a fydd yn ceisio llunio strategaeth partneriaeth gyda’r nod o wneud Cymru yn lle sy’n fwy diogel i bobl hŷn ac yn anoddach i sgamwyr.
Dywedodd Sarah Rochira: “Fel Comisiynydd, rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag Age Cymru a sefydliadau eraill i ddiogelu pobl hŷn yng Nghymru rhag sgamiau. Mae pobl hŷn yn cael eu targedu oherwydd eu bod yn cael eu gweld fel pobl agored i niwed a phobl mae modd ymddiried ynddyn nhw. Mae dioddef sgamiau yn gallu cael effaith ofnadwy ar fywydau pobl, yn ariannol ac yn emosiynol, a rhaid rhoi diwedd ar hyn.”
Dywedodd cadeirydd WASP Ian Thomas, Prif Weithredwr Age Cymru: “Mae ein Hymgyrch Sgamiau a Thwyll dros y 18 mis diwethaf wedi helpu i wthio diogelu pobl hŷn yn erbyn sgamiau i fyny’r agenda.
“Nawr byddem yn hoffi gweld partneriaeth genedlaethol o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat sydd i gyd yn chwarae eu rhan o ran lleihau nifer y bobl sy’n dioddef oherwydd sgamiau. Rhaid i ni wneud mwy i ddiogelu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed."
Llun: Sarah Rochira