Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Chwefror 2015

Dylai Cymru gael ei chynrychioli ar y panel sy’n ymchwilio i gam-drin plant

Mae Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n llawn yn ystod Ymchwiliad y Panel Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
 
Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, y Gwir Anrhydeddus Theresa May AS, mae’r Gweinidog wedi croesawu penodiad yr Ustus Lowell Goddard i gadeirio’r Panel, ond mae wedi galw unwaith yn rhagor iddi benodi aelodau a fydd yno’n benodol i gynrychioli Cymru.
 
Dywedodd Mark Drakeford: “Rwyf yn croesawu’r cyhoeddiad bod yr Ustus Lowell Goddard wedi derbyn gwahoddiad i gadeirio Ymchwiliad y Panel Annibynnol i
Gam-drin Plant yn Rhywiol. Rwyf hefyd yn croesawu’r penderfyniad i roi’r Ymchwiliad ar sail statudol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005.
 
“Mae rôl y Cadeirydd a’r Panel yn hanfodol o ran ennyn hyder y rheini sydd wedi cael eu cam-drin ac o ran dangos bod gwaith yr Ymchwiliad yn gynhwysol ac yn agored. Mae’r un mor bwysig bod trefniadau clir a chydlynol yn cael eu sefydlu i sicrhau bod y rheini sydd am roi tystiolaeth yn cael eu cefnogi’n effeithiol a’u grymuso wrth iddynt gyflwyno’u tystiolaeth, a hefyd ar ôl iddynt wneud hynny.
 
“Unwaith eto, rwyf wedi dweud yn gwbl glir wrth yr Ysgrifennydd Cartref ein bod yn disgwyl i aelodaeth a gwaith y Panel gynrychioli Cymru ac adlewyrchu’r sefyllfa o ran sut y mae asiantaethau datganoledig a’r asiantaethau sydd heb eu datganoli wedi arfer eu cyfrifoldebau i ymateb i honiadau o gam-drin a wnaed gan blant. Mae angen hefyd iddynt adlewyrchu’r fframwaith diogelu ar gyfer atal y cam-drin hwnnw.   
 
“Rwyf wedi ailddatgan yn y ffordd gryfaf bosibl mai barn Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yw y dylai’r Panel gynnwys aelodau a fydd yno’n benodol i gynrychioli Cymru. Rydym wedi bod o’r farn ers tro nad oedd gan aelodaeth y Panel brofiad a dealltwriaeth o’r cyd-destun yng Nghymru.
 
“Rwyf wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Cartref fynd ati cyn gynted ag y bo modd i amlinellu’i chynigion ar gyfer penodi aelodau newydd y Panel ac erbyn pryd y mae’n bwriadu bwrw ymlaen i wneud hynny. Rwyf wedi gofyn iddi hefyd amlinellu’r cynigion sydd ganddi i gynnwys Llywodraeth Cymru yn y broses honno.”
 

Rhannu |