Mwy o Newyddion
Galw ar i raglen frechu Meningitis B gael ei rhoi ar waith yn syth
Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi cefnogi galwadau gan ymgyrchwyr lleol ar i’r brechlyn rhag llid yr ymennydd, MenB gael ei roi i bob babi sy’n cael ei eni ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Daw hyn yn sgil pryderon ynghyn â’r oedi cyn ychwanegu’r pigiad yma at raglen brechu babanod y GIG.
Mae cynnig wedi ei gyflwyno yn y Senedd sy’n galw ar y Llywodraeth i sicrhau canlyniad boddhaol i’r trafodaethau ar y rhaglen frechu.
Mae’r brechlyn wedi ei drwyddedu ar gyfer ei ddefnyddio ym Mhrydain ers mwy na dwy flynedd, a chael cefnogaeth eang gan glinigwyr, nyrsys a gwyddonwyr blaenllaw. Ond mae trafodaethau’r Llywodraeth ar ariannu’r brechlyn yn creu oedi cyn ei roi ar gael, gan greu pryder fod plant ifanc yn marw heb fod rhaid.
Dywedodd Hywel Williams AS, “Mae’n rhwystredig iawn gwybod fod gennym frechlyn ar gyfer Meningitis B sy’n gweithio, ond nad yw’n cael ei roi i fabanod oherwydd cecru ynglŷn â’r pris.
"Mae’r afiechyd erchyll yma yn effeithio’n bennaf ar ein plant ac mae’n hollbwysig ei fod yn cael ei ddosbarthu cyn gynted ag sy’n bosib.
"Hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Meningitis Now sydd wedi tynnu sylw at y mater pwysig yma, ac yn enwedig y gwaith diflino gan Janice Roberts o Gaernarfon ddod â’r peth i sylw pobl.
"Yr angen rŵan ydi amserlen glir ac ymdrech unedig gan bawb sy’n ymwneud â’r mater i roi’r rhaglen frechu ar waith. Mi ddylai pob babi gael y brechlyn ar y GIG am ddim, yn hytrach na’i fod ar gael ddim ond i deuluoedd ariannog.”
Mae Hywel Williams AS hefyd wedi arwyddo cynnig seneddol (EDM728), ynghyd ag Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Elfyn Llwyd AS, sy’n llongyfarch ymgyrch Meningitis Now am ymgyrchu i sicrhau fod brechlyn MenB yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Frechu Reolaidd y GIG.