Mwy o Newyddion
Blwyddyn Betsan Powys
MAE’N dod yn flwyddyn ers i Olygydd Radio Cymru gyhoeddi amserlen newydd yr orsaf, ac mae hi’n dyheu am y dydd pan na fydd ffigurau gwrando yn hofran fel cwmwl du uwch ei phen hi, ei staff a’i chyflwynwyr.
Mae Betsan Powys yn dweud hyn wrth Y Cymro yn ystod yr wythnos y mae’r corff mesur cynulleidfaoedd radio, RAJAR, yn cyhoeddi am y trydydd chwarter yn ystod ei theyrnasiad hi yn Llandaf, faint o bobl sy’n tiwnio i mewn i wrando ar raglenni Radio Cymru bob wythnos.
Ddoe (dydd Iau, Chwefror 5) yr oedd mawr ddisgwyl am y cyhoeddiad hwnnw, oherwydd y tro diwethaf y cyhoeddodd RAJAR ei ffigurau, roedd niferoedd Radio Cymru ar eu hisaf erioed – ar gyfanswm o 105,000 o wrandawyr bob wythnos (15,000 o wrandawyr y dydd, ar gyfartaledd); cwymp o 42,000 o gymharu â’r chwarter blaenorol.
Ar Fawrth 10, 2014, fe ddaeth y cyflwynydd Tommo i lenwi teirawr y prynhawn ar Radio Cymru; fe ddaeth Shân Cothi i hen slot Nia Roberts yn y bore; ac fe gafodd Dylan Jones ei estyniad dwyawr ei hun i’r rhaglen newyddion foreol, i gymryd lle Dafydd Du a Caryl.
Fe ddaeth Tudur Owen hefyd yn gyflwynydd rheolaidd bob prynhawn dydd Gwener; ac, o gwmpas slot Taro’r Post amser cinio, fe roddwyd rhaglenni hanner awr i Gari Wyn, John Walter Jones a Caryl Parry Jones, ynghyd â gosod Nia Roberts yn brif lais rhaglen gelfyddydau Stiwdio, a Vaughan Roderick i lywio trafodaeth wleidyddol ar ddydd Gwener, O’r Bae.
Beth bynnag fydd RAJAR yn ei ddweud, mae Betsan Powys yn dweud iddi “fwynhau’n aruthrol” y flwyddyn a aeth heibio – a hynny er bod rhai agweddau ar y gwaith heb fod mor greadigol ag y dymunai iddi fod. “Ond fedr y gwaith ddim bod yn greadigol bob amser,” meddai wrth Y Cymro, “mae angen gwneud penderfyniadau.”
“Mi gynhalion ni’r ‘sgwrs’ gyda gwrandawyr, a chasglu barn, ac rydan ni wedi gosod amserlen a threfn yn ei lle, ac rydyn ni’n glynu wrthi. Rydyn ni’n credo ynddi hi,” meddai Betsan Powys wedyn.
“A dweud y gwir, roeddwn i’n disgwyl i’r ffigurau cyntaf yn dilyn y newidiadau fod yn rhai isel, a’n bod ni’n codi’n ara’ deg o hynny wedyn. Ond, fel digwyddodd pethe, roedd y ffigurau gwrando yn dilyn y chwarter cynta’ o’r amserlen newydd, i fyny… ac wedyn y daeth y gwymp.
“Ond mae’n rhyfedd, y tro diwetha’ pan gafodd Radio Wales ffigurau siomedig, ro’n i’n trafod gyda Golygydd Radio Wales, a dyma fe’n dweud, ‘Nawr wy’n deall beth mae Radio Cymru yn ei gael trwy’r amser, sef y pwyslais a’r sylw cyson yma ar faint sy’n gwrando...’ Mae Radio Cymru, wastad, yn cael mwy o sylw pan mae trafod a chyhoeddi ffigurau gwrando.”
Felly, beth am y penderfyniadau? A beth am Tommo? Syniad da, neu syniad gwael? Waeth, mae rhai’n mwynhau ei gyflwyno annwyl a’i wamalu ar foliwm uwch, tra bod eraill yn casau (nid gormodiaith) “sŵn mawr y pnawn”...
“Roedd Tommo yn syniad ardderchog!” ydi ateb pendant Betsan Powys, “ac r’yn ni’n gwybod fod ambell i raglen yn denu 120 o alwadau ffôn, sydd yn ymateb gwych. Mae e a’r tîm yn gweithio’n hynod o galed, a dw i’n meddwl ei fod e’n cael ei werthfawrogi am ei fod e’n dod â phobol na fydde ddim yn gwrando fel arall, at Radio Cymru.
“Dyw Tommo ddim at ddant pawb, ond allwn ni ddim plesio pawb trwy’r amser. Ond lle arall ar y gwasanaeth hwn allen ni gael cystadleuaeth o’r enw ‘Taro’r tarw’?”
Dydi hi ddim yn bosibl dweud eto, meddai Betsan Powys, a ydi Tommo wedi gallu ail-gynnau dilyniant y de-orllewin, y dilyniant a fu’n erydu flynyddoedd cyn ei dyfodiad hi i Radio Cymru, yn dilyn torri’r opt-owt fu yn nyddiau’r cyflwynwyr Sian Thomas a’r diweddar Ray Gravell.
“Y gwir ydi ein bod ni wedi colli gwrandawyr ym mhob rhan o Gymru,” meddai Betsan Powys. “R’yn ni wedi colli yng Ngwynedd ac yn y gorllewin, yn ogystal ag yn ardal Caerdydd, sef yr ardaloedd lle mae’r nifer mwya’ o siaradwyr Cymraeg.
“R’yn ni’n gwybod ein bod ni’n colli pedair mil o wrandawyr hŷn bob blwyddyn oherwydd eu bod nhw’n marw. R’yn ni wedi colli o bob ardal, nid jyst y gorllewin.”
Newid strwythur staff
Ionawr 12 oedd dyddiad dechrau Dirprwy Olygydd Radio Cymru yn ei swydd. Swydd newydd ydi hon, ac Ynyr Williams (cyn-Gynhyrchydd cyfres opera sebon, Pobol y Cwm) ydi’r dyn sydd yn ei llenwi – o Ganolfan Ddarlledu Bryn Meirion ym Mangor.
Gyda’i ddyfodiad o, fe fydd tri Is-Olygydd a fu yn eu swyddi ers blynyddoedd – John Roberts, Irfon Jones ac Owain Arfon Williams – yn gadael eu swyddi nhw; mae sut yn union y bydd hynny’n digwydd yn drafodaeth rhwng BBC Cymru a’r undebau ar hyn o bryd, meddai Betsan Powys.
A’r trydydd cam yn y newid strwythur fydd penodi tri Uwch Gynhyrchydd, i gymryd lle’r tri Is-Olygydd cynt, pob un gyda’i faes arbenigedd ei hun, ac a fydd yn gyfrifol yn y pendraw am allu comisiynu a llunio strategaethau ar gyfer eu meysydd, heb orfod mynd at y Golygydd (Betsan Powys) i roi sêl bendith ar bob penderfyniad.
“Yr her ydi bod yn glir,” meddai. “Mae’r strwythur newydd yn ffordd o wneud pethau’n gliriach, a gwneud yn siŵr fod pawb yn deall pwy sy’n gyfrifol am beth.
“Rydyn ni eisie parhau i ddarlledu o Fangor, o Wrecsam, o Gaerfyrddin ac o Gaerdydd, ac fe fydd gan yr Uwch Gynhyrchwyr gyfrifoldeb dros eu meysydd unigol – un dros Gerddoriaeth; un arall dros Raglenni Dyddiol (y “strands”, fel maen nhw’n cael eu galw); a’r trydydd dros Raglenni Llafar (sy’n cynnwys dogfen a nodwedd a straeon pobl).
Arian
Fe fydd Radio Cymru, fel holl orsafoedd radio eraill y BBC, yn cael gwybod o fewn yr wythnosau nesaf faint o gyllideb fydd ganddi i wneud ei gwaith yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd, meddai Betsan Powys, fedr hi ddim cwyno am ddiffyg arian i wneud y gwaith bara menyn.
“Wrth gwrs fod yr esgid yn gwasgu,” meddai, “ond mae’n gwasgu ar bawb y dyddie hyn. Ond dyw hi ddim yn gwasgu cyment nes ein bod ni’n methu gwneud ein gwaith.
“Ac, wrth gwrs, pe bai gyda ni fwy o arian, fe fydden ni’n gallu gwneud dewisiadau ynglŷn â phethe eraill fydde’n braf gallu eu gwneud... fel mwy o ddarllediadau allanol; mwy o gyngherddau gyda’r Gerddorfa; mynd mas i gymunede, mwy o ddramâu yn gyson (yn hytrach nag un gyfres bob blwyddyn)...
“Mae yna lawer o bethe y bydden ni’n gallu ei wneud gyda mwy o arian, ond ar hyn o bryd, rwy’n credo ein bod ni’n cynnal y strwythur a’r safon ar y gyllideb sydd gyda ni.”
Uno â Radio Wales
Mae Betsan Powys yn gwrthod yn bendant fod yna unrhyw argoel na sôn am orfod uno gwasanaethau radio Cymru – Radio Cymru a Radio Wales – dan bwysau o Lundain. Ac mae hynny’n wir, beth bynnag fydd ffigurau gwrando RAJAR yr wythnos hon yn ei ddweud.
“Dyw’r mater yma erioed wedi cael ei godi, nac wedi bod yn bwnc trafod o gwbwl,” meddai, gan gydnabod fod yna fwy nac un sylwebydd wedi bod yn darogan gwae i’r cyfeiriad hwn.
“Mae rhai wedi tynnu sylw at y ffaith bod cyment o gyflwynwyr Radio Wales nawr yn medru’r Gymraeg (pobol fel Eleri Sion a Jason Muhammad)... ond dw i ddim yn gweld hynny fel bygythiad. Mae’n beth da! Nid gwendid na bygythiad yw e!
“Rwy’ i wedi bod yn trafod gyda Radio Wales y posibilrwydd o wneud rhaglenni ar gyfer dysgwyr. Dw i ddim yn meddwl mai Radio Cymru yw’r lle ar gyfer rhaglen sy’n cyflwyno pethau elfennol am ddysgu Cymraeg – Radio Wales allai wneud hynny – ond dw i’n meddwl ei bod hi’n gyfrifoldeb ar Radio Cymru i ystyried sut i ddarparu rhaglenni ar gyfer dysgwyr da.
“Mae’n gyfrifoldeb ar bawb ohonon ni i feddwl sut allwn ni helpu pobol sy’n dysgu Cymraeg, i ddod yn rhan o’r byd Cymraeg, i glywed cerddoriaeth Gymraeg ac i ddod i ddeall mwy am Gymru a’r iaith.
“Ond uno’r ddwy orsaf? Na, dyw hynny ddim dan drafodaeth.”
Bygythiad y gorsafoedd annibynnol
Mae Betsan Powys yn ymwybodol iawn o’r gystadleuaeth sy’n codi o’r gorsafoedd masnachol yng Nghymru hefyd. Ar hyn o bryd, mae cwmniau mawr fel Global (sy’n darlledu ar draws y gogledd) yn ogystal â Capital (sy’n cynnwys Heart FM) a’u cyflwynwyr Cymraeg yn weithgar iawn yn y cymunedau.
Maen nhw’n mynd ar ymweliadau ag ysgolion. Maen nhw’n cynnal gweithdai yn y gymuned. Ac maen nhw’n pwysleisio ar y lleol iawn, iawn – o gynnwys eu bwletinau newyddion i’w rhagolygon y tywydd.
“Mae yna gystadleuaeth, yn bendant,” meddai Betsan Powys. “Ond eto, a ydi hynny’n beth drwg?
“Pan oedd Radio Cymru yn cynnal taith yr haf y llynedd, roedden ni mas yna gyda set radio fawr las, yn siarad gyda phobol ar y strydoedd ac mewn trefi glan y môr... ond oedd rhywun yn ymwybodol iawn hefyd fod gorsaf arall mas yna, yn targedu’r un bobol, yr un gwrandawyr, gyda’u deckchair fawr goch.
“Mae hi yn her, does dim dwywaith. Ond mae bach o gystadleuaeth yn beth da.”
Ail donfedd Gymraeg
Mae’r cwestiwn o greu dwy donfedd Radio Cymru yn codi’n gyson ers rhai blynyddoedd bellach – y nail, yn steil Radio 4 neu Radio 2, gyda phwyslais ar raglenni lleisiol, a’r llall yn debycach i Radio 1 ac yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a steil ieuengach o gyflwyno.
Ond ar wahân i arian, mae yna resymau eraill pam nad ydi hynny’n ymarferol bosibl ar hyn o bryd, meddai Betsan Powys.
“Mae yna brobleme technegol,” meddai, “does yna ddim arian, ac er bod radio DAB (digidol) yn dod i ardaloedd newydd o Gymru yn gynyddol, mae’r penderfyniadau ynglŷn â lle sy’n gallu derbyn DAB yn dod gan y Llywodraeth yn San Steffan.
“Nid mater i’r BBC ydi hynny.”
Ond mae cyflwyno cyfleoedd newydd i wrando ar raglenni yn profi’n boblogaidd, meddai Betsan Powys. A beth bynnag y mae ffigurau RAJAR yn ei ddweud yr wythnos hon, mae Adran Gynulleidfaoedd y BBC yng Nghaerdydd yn fodlon iawn gyda’r cynnydd sydd wedi bod yn nifer y rhai sy’n gwrando ar Radio Cymru ar y we – yn arbennig fel podlediadau (pecynnau llai o raglenni cyfan).
Yn ôl ffigurau diweddaraf yr Adran honno, mae nifer y rhai sy’n gwrando ar fersiynau wedi’u talfyrru o raglenni ar eu cyfrifiaduron, yn hytrach na gwrando’n “fyw”, wedi cynyddu chwechgwaith mewn tair blynedd. Yn Rhagfyr 2011, roedd 5,000 o bobol yn gwrando ar bodlediadau; ond erbyn Rhagfyr 2014, mae’r nifer wedi codi i 29,988.
A thros y flwyddyn 2014, tra bod 400,000 o bobol wedi gwrando’n fyw ar unrhyw raglen, ar gyfartaledd, roedd 169,000 arall wedi defnyddio opsiwn ‘Gwrando Eto’ ar iPlayer ar y we, sydd ar gael i wrandawyr ar draws y byd.
“Pan dw i’n deall y pethau hyn, fel golygydd, mae’n gwneud i mi deimlo’n dda!” meddai Betsan Powys.
Rhannu syniadau
Mae BBC yr Alban wedi penderfynu cymryd un o syniadau newydd Radio Cymru, a’i ddefnyddio ar ei wasanaeth yno – sef y syniad o bennu Bardd Preswyl bob mis i ymateb i ddigwyddiadau ac i raglenni’r orsaf.
“Mae’n ymarfer da,” meddai Betsan Powys.
“Fe ddigwyddodd hyn gyda’r Bardd Preswyl oherwydd bod gan Radio Cymru bresenoldeb ar y we, ac mae cerddi’r Beirdd Preswyl i gyd yn cael eu cyhoeddi yno.
“A digwydd bod, fe welodd rhywun sy’n gweithio i’r BBC yn yr Alban y wefan, a gweld y beirdd a’u cerddi, a chario’r neges ymlaen.
“Mae rhannu syniadau fel hyn yn beth y dylen ni fod yn gwneud mwy ohono fe, a’r cyfle mawr ddaeth i ni yn ystod 2014 oedd yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
“Fe gawson ni gyfle i gyfarfod a thrafod bryd hynny.”
EOS a’r BBC
Bythefnos yn ôl, fe arwyddwyd cytundeb ffurfiol, parhaol, rhwng yr asiantaeth casglu breindal Cymraeg, EOS, a Radio Cymru – a hynny’n dilyn tribiwnlys yn ystod 2013.
“Mae hyn yn newyddion da i ni,” meddai Betsan Powys. “Mae’n dangos fod yr ewyllys yno, o’r ddwy ochr, i gael cerddoriaeth Gymraeg ar y tonfeddi.
“Does dim byd newydd yn y cytundeb hwn, dim ond cadarnhau yr hyn fu’n sail i gytundeb dros dro ers dyfarniad y tribiwnlys ddiwedd 2013.
“Ond mi fydd hwn yn sefyll nawr, nes y daw hi’n amser trafod eto.”
Penderfyniad y tribiwnlys oedd y dylai Radio Cymru dalu £100,000 y flwyddyn am yr hawl i gael chwarae caneuon gan gyfansoddwyr, perfformwyr a cherddorion Cymraeg bob blwyddyn. Roedd EOS wedi gofyn am £1m.