Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Chwefror 2015

Aiff Twm fyth yn angof

MAE teulu un o’r aelodau a fu’n canu yn un o gorau hynaf Cymru am nifer fawr o flynyddoedd wedi diolch i’w gyd aelodau am roddi cyflwyniad emosiynol o’i hoff gân yn ei angladd.

Bu Twm Morgan a fu’n gweithio yn y chwarel am y rhan fwyaf o’i oes yn aelod o Gôr Meibion y Penrhyn am 64 mlynedd a hynny tan ychydig wythnosau cyn ei farw yn 81 oed.

Roedd Twm yn aelod o’r adran fas a chyda’r adran fariton cyn hynny. Bu’n unawdydd gyda’r côr am nifer o flynyddoedd hefyd. Cafodd ei godi’n llywydd anrhydeddus y côr yn 2001 a bu yn y swydd honno tan y diwedd. Fel teyrnged i’w gyfraniad fel aelod o’r côr ac ar gais Vera, ei weddw, clywyd recordiad o Twm yn perfformio rhan yr unawdydd yn ei hoff gân, Rhyfelgan y Weriniaeth, (Battle Hymn of the Republic) yn ei angladd yr wythnos ddiwethaf.  Ymunodd gweddill aelodau Côr y Penrhyn yn fyw gyda’r recordiad.

Roedd dros 200 o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor yn cynnwys ei briod Vera a’i dri phlentyn Gwyn, 56, Dylan, 53 a Nerys, 43.  Mae hefyd yn gadael pump o wyrion ac wyresau: Alun 27, Arwen 9 ac Elin 6, plant Gwyn y mab hynaf a hefyd Aron, 8 a Harri 4, plant Nerys.

Dilynodd Twm yn ôl traed ei dad, Emrys, wrth ymuno â’r côr. Ffurfiwyd Côr y Penrhyn yn 1893 pan unodd nifer o gorau llai i wneud un côr mawr yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda lle bu Twm yn gweithio.

Roedd Emrys Morgan yn godwr canu ac yn y rôl honno roedd gofyn iddo hymian y nodau cyn pob perfformiad er mwyn gwneud yn siŵr bod y cantorion mewn tiwn.

Roedd hi’n addas iawn felly pan gafodd ei fab, Twm, rôl flaenllaw yn y côr gan i’r tad a’r mab gyd-ganu am flynyddoedd lawer.

Meddai Alun Davies, Cadeirydd y côr: “Roedden ni i gyd yn drist iawn ar ôl colli Twm oherwydd roedd o’n rhan mor allweddol o’r côr.

“Dyn digon tawel oedd Twm, un swil â dweud y gwir, gan nad oedd yn un am sefyll o flaen pobl i ddenu sylw ato’i hun ond er hynny roedd o’n mwynhau tynnu coes a byddai ganddo ryw sylw neu ymateb i bob sefyllfa.

“Roedd o’n hoff iawn o herian pobl ac roedd wrth ei fodd yng nghyfeillach y côr.  Roedd ei aelodaeth yn rhan enfawr o’i fywyd ac yn rhan bwysig o’r gymuned ym Methesda lle’r oedd Twm yn byw.
“Bydd bwlch mawr ar ei ôl.”

Cafodd Twm fyw i ddathlu pen-blwydd Vera yn 80 oed yn niwedd Mis Tachwedd ond ni chafodd weld dathliad pen-blwydd eu priodas ar ôl  60 o flynyddoedd.  Byddai hynny wedi digwydd yn ystod Mis Tachwedd nesaf.

Hefyd, perfformiodd y côr Bendigedig, un arall o hoff ganeuon Twm, wrth i’w arch gael ei chludo i mewn i’r amlosgfa a hynny ar gais ei ferch, Nerys.

Meddai hi: “Byddai nhad wedi cerdded drwy ddŵr a thân i berfformio efo’r côr. Doedd o byth yn colli ymarfer na chyngerdd.  Roedd o’n byw er mwyn y côr yna.

“Pan ofynnodd y gweinidog i mi am ei ddiddordebau, mi ddywedais: “Canu, canu, canu a mwy o ganu!

“Gofynnodd mam am Ryfelgan y Weriniaeth yn yr angladd gan ei bod hi eisiau clywed ei lais am y tro olaf ond doedden ni erioed wedi disgwyl y byddai cymaint o aelodau’r côr wedi dod yna i’w chanu.
“Roedd hynny’n beth arbennig iawn.”

Ychwanegodd: “Mi ddaeth  Hefin, brawd dad, a’i deulu draw’r holl ffordd o Seland Newydd i fod yn yr angladd.

“Mae’r gymuned wedi bod yn hynod yn eu cefnogaeth gan ddod i weld mam yn eu dwsinau ac mae hi wedi derbyn cannoedd o gardiau hefyd.  Mae cannoedd o bunnau wedi cael eu rhoi er cof amdano.”

Gwilym Owen, 76 oed, o Fethesda yw’r aelod gyda’r nifer mwyaf o flynyddoedd yn y côr erbyn hyn.  Ymunodd o â’r côr yn 1960 ac arferai sefyll yn ymyl Twm yn yr adran fas.

Meddai: “Mi fydd bod heb Twm yn golled fawr i mi oherwydd mi fuon ni’n cyd-ganu am lawer iawn o flynyddoedd.  Roedd o’n unawdydd ardderchog ac roedd ganddo lais bariton bendigedig.

“Mi fyddaf yn colli ei herian.  Roedd o’n gymeriad hoffus ac yn bersonoliaeth arbennig. Roedd o’n ddireidus iawn, fel hogyn ysgol weithiau, ac mi allech weld hynny yn yr edrychiad a roddai pan fyddai rhywbeth anghyffredin wedi digwydd.”

Mae Owain Arwel Davies yn bennaeth cerdd yn Ysgol Tryfan, Bangor ac yn arwain y côr ers degawd.

Meddai: ”Roedd ei bersonoliaeth a’i ffyddlondeb i’r côr yn golygu llawer i ni a salwch oedd yr unig beth a’i cadwai draw.

“Roedd o’n ysbrydoliaeth i’r aelodau ieuengaf ac roedd llawer ohonyn nhw, hyd yn oed y rhai 17 oed, eisiau troi allan i ganu yn ei angladd.

“Mi fyddwn i’n herio unrhyw un i guro ei record o 64 mlynedd gyda’r côr.

“Mi fydd Twm yn y côr am byth. Dwi’n gwybod ei fod wedi’n gadael ni ond dwi ddim yn credu y bydd ei ysbryd yn gadael byth.  Bydd yr atgof am un a ddangosodd y fath ymroddiad gyda ni trwy gydol yr amser.”

“Doedd dim digon o le yn yr amlosgfa,” meddai Arwel wrth ddwyn angladd Twm i gof.

 “Mae gynnon ni tua 65 o aelodau a daeth hanner cant ohonon ni i ganu yn y gwasanaeth.  Roedd y cyfan yn emosiynol iawn.”

O Gwm Ystwyth yng Ngheredigion y daeth Twm yn wreiddiol a symudodd ei deulu i Gerlan pan oedd o’n 14 oed.  Flynyddoedd yn ddiweddarach symudodd Twm a Vera i lawr i Stad Glanogwen, Bethesda.  Aeth i weithio i Chwarel y Penrhyn pan oedd yn ifanc. Yn ddiweddarach aeth i weithio am ychydig fel porter yn Undeb y Myfyrwyr, Coleg y Brifysgol ym Mangor ond yn ei ôl i’r chwarel y mynnodd fynd ac arhosodd yno hyd ei ymddeoliad.

Ymhlith ei berfformiadau niferus gyda’r côr bu’n canu yn Neuadd Albert, Llundain a bu hefyd ar daith i’r Almaen.  Yn 1983 recordiwyd ef yn canu’r unawd yn Rhyfelgan y Weriniaeth a ffurfiodd  y gân honno ran o albwm Canada ’83 oedd yn nodi un arall o deithiau tramor y côr.

Perfformiodd Twm gyda’r côr pan agorwyd hefyd gwifren wib hiraf y byd yn ei hen weithle yn Chwarel y Penrhyn yn 2013.

Rhannu |