Mwy o Newyddion
Y goeden unig yn cynrychioli Cymru
FE fydd y goeden a achubwyd gan y gymuned leol yn Llanfyllin yn chwifio’r faner i Gymru yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Mae’r Goeden Unig, sef pinwydden yr Alban sydd wedi sefyll am flynyddoedd ar y gorwel uwchben Llanfyllin ym Mhowys yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn ystod y mis hwn. Mae’r goeden wedi gwylio dros y dref am dros 200 o flynyddoedd. Fe fyddai pobl leol yn ymweld â hi i naddu eu henwau, i gynnig priodas neu i wasgaru llwch.
Ym mis Chwefror 2014 fe gafodd ei chwythu i lawr mewn gwyntoedd cryfion. Ond ddaeth pobl leol at ei gilydd i dipio dros 30 tunnell o bridd dros y gwreiddiau.
Y nod yw sicrhau y gall unrhyw wreiddiau sy’n dal yn fyw weithio, gan ei chaniatáu i oroesi a ffynnu, megis phoenix, ond yn lledorwedd yn hytrach na sefyll.
Dewiswyd y Goeden Unig fel y Coeden Gymreig y Flwyddyn mewn pleidlais gyhoeddus a drefnwyd gan Coed Cadw (Woodand Trust), gan guro cystadleuaeth gref o saith coeden arall ac ennill 25% o’r holl bleidleisiau a fwriwyd ar y rhyngrwyd ac mewn sioeau a digwyddiadau ar draws y wlad.
Mae hi bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn, yn cystadlu yn erbyn 13 o goed eraill o bob cwr o Ewrop.
Mae’r pleidleisio yn digwydd ar-lein trwy gydol mis Chwefror wrth www.treeoftheyear.org
Un o’r rhai sy’n cefnogi’r Goeden Unig yn y gystadleuaeth Ewropeaidd yw’r naturiaethwr teledu Iolo Williams, a fydd yn ymweld â’r goeden fore Sul (Chwefror 8) er mwyn dadorchuddio plac carreg i gofnodi buddugoliaeth y goeden yng nghystadleuaeth Coeden Gymreig y Flwyddyn y llynedd.
“Wnes i ymweld â’r Goden Unig sawl gwaith yn ystod fy nyddiau ysgol yn Llanfyllin, yn aml pan ddylswn wedi bod mewn gwersi!” meddai Iolo Williams.
“Dwi’n cefnogi’r goeden yn gryf fel coeden Cymru yng nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn, am ei bod yn symbol o ba mor bwysig y gall hyd yn oed coeden unigol fod i gymunedau lleol ar draws Cymru ac yn wir y byd.
“Roedd hi mor bwysig i bobl Llanfyllin fel eu bod nhw wedi dod at ei gilydd i geisio ei hachub pan gafodd ei chwythu i lawr. Mae hynny’n wers i ni i gyd.
“Mae yna gystadleuaeth gref o bob cwr o Ewrop, cofiwch fynd i treeoftheyear.org a phleidleisio dros ein coeden Gymreig ni!”
Mae gan y Goeden Unig lu o gefnogwr ffyddlon yn Llanfyllin. Mae’n cael ei hyrwyddo’n egnïol yn y gystadleuaeth gan wefan y dref sef llanfyllin.org yn ogystal â phwyllgor lleol sy’n cynnwys y Maer y Dref, Ann Williams, a pherchennog y goeden, Peter Lewis.
Mae’r pwyllgor wedi cynhyrchu llyfr dwyieithog, ‘Y Goeden Unig: fy stori’.
Trefnir Cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn gan Gymdeithas Partneriaeth yr Amgylchedd, sef Clymbaid o chwech mudiad sy’n cefnogi prosiectau cymunedol sydd â’u bryd ar warchod yr amgylchedd.
Mae wedi bod yn rhedeg ers 2011 ac mae’n anelu at ddod o hyd nid yw’r coed hynaf, talaf, mwyaf, prydferthaf neu brinnaf, ond y goeden mwyaf hoffus, coeden sydd â stori sy’n gallu dod â chymuned at ei gilydd.
Mae’r pleidleisio’n digwydd rhwng Chwefror 1 a 28 ar www.treeoftheyear.org a chyhoeddir yr enillydd ar-lein ar Fawrth 5, gyda seremoni wobrwyo ym Mrwsel ar Ebrill 22.
Y llynedd fe dderbynniodd y goeden fuddugol, Hen Lwyfen Sliven, Bwlgaria, 77,526 o bleidleisiau.