Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Chwefror 2015
KAREN OWEN

Cyflwyno Zappa i genhedlaeth newydd

BYDD gwaith a bywyd y cerddor chwedlonol Frank Zappa yn cael eu dathlu mewn gŵyl gerddoriaeth ym Mangor, gan roi’r cyfle i ddilynwyr sgwrsio â’i weddw yn fyw o America. 

Bydd yr eicon Americanaidd –oedd yn enwog am arwain bandiau, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a chyfarwyddo ffilmiau – yn cael ei goffau mewn cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl Gerdd Bangor, sy’n dechrau ar Fawrth 4.

Yn ôl trefnwyr yr ŵyl gerdd gyfoes, maent am roi blas o waith gwych yr athrylith “gwallgof” Zappa i gynulleidfaoedd heddiw.

Fel rhan o’r dathliadau bydd sesiwn holi ac ateb gyda Gail Zappa gan ddefnyddio linc fideo o Galiffornia.

Bydd yr ŵyl, sydd erbyn hyn yn ei 15fed flwyddyn, hefyd yn cynnwys cerddoriaeth newydd sbon gan bum cyfansoddwr ifanc, Katherine Betteridge, Ellie Davies, Sioned Eleri Roberts, Dan Song a Hedd Thomas, yn ogystal â darnau newydd gan y cyfansoddwyr adnabyddus, Pwyll ap Siôn ac Owain Llwyd.

Y thema eleni yw ‘Croesi-Ffin ac Aml-Gyfrwng’, gyda phob cyngerdd yn gysylltiedig â phrosiect addysg arbennig, gan gyd-weithio â nifer o ysgolion lleol yn ogystal â myfyrwyr prifysgol y ddinas.

Yn ôl Guto Pryderi Puw, cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, sy’n ddarlithydd prifysgol ac yn gyfansoddwr adnabyddus ei hun, y bwriad yw rhoi’r cyfle i’r cyhoedd fwynhau a dysgu am gerddoriaeth gyfoes.

“Mae’n bwysig rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol, myfyrwyr a’r cyhoedd gael blas ar y gerddoriaeth gyfoes fwyaf cyffrous sy’n cael ei gyfansoddi heddiw,” meddai. 

“Bob blwyddyn, mae’r ŵyl yn ymdrechu i gyflwyno’r datblygiadau a’r tueddiadau diweddaraf o fyd cerddoriaeth gyfoes, gan roi lle blaenllaw i gerddoriaeth siambr, digwyddiadau aml-gyfrwng, cerddoriaeth electroacwstig a cherddoriaeth arbrofol.

“‘Ryden ni hefyd yn comisiynu nifer o ddarnau newydd gan gyfansoddwyr o wahanol wledydd.”

Y cyfansoddwr a’r chwaraewr allweddellau Graham Fitkin, a’r delynores Ruth Wall fydd yn agor yr ŵyl gyda pherfformiad o ‘Lost’, fydd yn cyfuno goleuo, technoleg a cherddoriaeth.  Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Bangor.
Dydd Iau, Mawrth 5, bydd gwaith Zappa yn cael ei ddathlu, pan fydd Theatr Bara Caws yn cyfarwyddo perfformiad o drawsgrifiad achos llys Zappa yn 1975, cyn bydd ffilm ddogfen o’r enw ‘Summer ’82’ yn cael ei dangos ar fywyd a gwaith Frank Zappa.

Yna bydd Gail Zappa, Joe Travers a Kurt Morgan o Ymddiriedolaeth Zappa yn ymuno â chynulleidfa Bangor am sesiwn cwestiwn ac ateb.
Bydd cyngerdd wedyn gan Decibel, sy’n cynnwys tri threfniant o ddarnau Zappa, darnau gan Ed Bennett, Joe Cutler a Graham Fitkin, yn ogystal â gwaith newydd gan Pwyll ap Siôn, a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth Zappa, ac a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl.

Rhannu |