Mwy o Newyddion
Cydweithredu gydag Awstralia ar fenter cymorth gamblo yng Nghymru
Mae un o wasanaethau cymorth gamblo mwyaf blaenllaw'r byd, Ffederasiwn Gamblo Cyfrifol Fictoria, yng ngogledd Melbourne, Awstralia, wedi ffurfio cydweithrediad strategol gydag Ystafell Fyw Caerdydd i'w helpu i ddatblygu ei fenter arloesol, Curo’r Bwci, yng Nghymru.
Fel yng Nghymru, mae gamblo yn broblem yn Awstralia ac yn cael ei gydnabod fel mater iechyd cyhoeddus pwysig gydag effeithiau negyddol ar unigolion, teuluoedd achymunedau. Amcangyfrifir, o ymchwil a wnaed gan y Ffederasiwn Gamblo Cyfrifol Fictoria, bod oddeutu 20-30% o rheini sy’n gamblo yn Awstralia yn gamblwyr problemus, sydd yn eu tro yn gyfrifol am gymaint â 50-60% o'r holl arian a wariwyd.
Natur y cydweithio rhwng Cymru ac Awstralia yn y lle cyntaf fydd cyfres o gyrsiau hyfforddiant a chynhelir ym mis Mehefin yng Nghymru gan gynrychiolwyr o Ffederasiwn Gamblo Cyfrifol Fictoria. Bydd y cyrsiau yn cael eu cynllunio i alluogi staff Ystafell Fyw a CAIS i redeg cyfres o fentrau peilot ar gamblo problemus yngNghymru.
Caiff y cyrsiau hyfforddi eu dilyn gan gynhadledd arbennig, Pan Mae Lwc yn Rhedeg Allan??, a chynhelir yn Adeilad y Pierhead, Caerdydd ar fore 24 Mehefin. Ar yr un noson, bydd y Pierhead hefyd yn cynnal darlith flynyddol yr Ystafell Fyw Caerdydd.
Meddai Serge Sardo, Prif Swyddog Gweithredol, Y Sefydliad Gamblo Cyfrifol Fictoria, "Cawsom ein sefydlu gan Lywodraeth Victoria dan statud er mwyn lleihau nifer yr achosion o gamblo problemus a lleihau’r niwed o ganlyniad i gamblo ac i feithrin gamblo cyfrifol.
"Rydym bob amser wedi cydnabod yr angen i asiantaethau sy'n gweithio yn y maes hwn i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac yn ei dro yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygugwasanaethau mewn awdurdodaethau eraill. Rydym felly yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag Ystafell Fyw Caerdydd i rannu gwybodaeth ac adnoddau i fynd i'r afael â phla gamblo broblemus yn ein cymdeithasau, yma yn Awstralia a Chymru.
Dywedodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr, Ystafell Fyw Caerdydd, "Mae gan Gymru broblem gamblo ddifrifol gyda gwariant ar beiriannau betio sefydlog yng Nghaerdydd, Casnewydd a Wrecsam, er enghraifft, ar yr un lefel â dinasoedd mwy poblog Bryste, Coventry a Chaeredin. Mae gamblo yn un o brif achosion dyled.
"Gyda betio ar beiriannau betio sefydlog yn cyfateb i £675 am bob oedolyn yng Nghymru bob blwyddyn a gyda mwy a mwy o gasglwyr dyledion ar waith, mae Curo’r Bwci yn gweithio i ddod o hyd i ateb i gamblo problemus, sydd erbyn hyn yn broblem fawr yma yng Nghymru.
"Fodd bynnag, ni allwn wneud hyn ar ben ein hunain ac mae’r gallu i gydweithio gyda'n cefndryd yn Awstralia yn ffordd wych i sefydlu gwasanaeth effeithiol i boblsydd â phroblemau gamblo."
Ychwanegodd Clive Wolfendale, Prif Weithredwr CAIS Cyf ,yr elusen sy'n cefnogi gwaith Stafell Fyw Caerdydd, "Mae'n amlwg iawn i ni fod y ffenomen o gamblo, sydd wedi dwysáu gan hygyrchedd drwy dechnoleg newydd, yn un o heriau allweddol ein hoes. Mae'n hollbwysig i ni, felly, ein bod ynrhannu ein taith gydag unigolion a sefydliadau sydd eisoes wedi cymryd camau sylweddol yn y maes. Mae enw da'r Sefydliad Gamblo Cyfrifol Fictoria yn un ardderchog ac yr ydym o ganlyniad yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd i wireddu’r fenter gyffrous hon."
Llun: Wynford Ellis Owen