Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Ionawr 2015

CFfI Cymru’n mynd i’r afael â phroblemau ariannol

Mae CFfI Cymru’n galw ar randdeiliaid i helpu i sicrhau ei ddyfodol, yn dilyn newyddion bod y mudiad i golli ei brif ffynonellau cyllid o ddwy ffrwd.

Yn y gorffennol mae’r cyllid hwn gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru trwy raglen grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol wedi bod yn gyfrwng i alluogi’r mudiad i gynnal rhaglen lewyrchus o addysg a datblygiad personol i’w 6,000 o aelodau ar draws 155 o glybiau ledled Cymru.

Meddai Cadeirydd CFfI Cymru, Iwan Meirion: “Rydym yn hynod siomedig o dderbyn y newyddion hyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol. Mae’r cyllid hwn yn angenrheidiol i ni gynnal ein rhaglenni addysgol i filoedd o bobl ifanc sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Er ein bod ni’n deall ac yn disgwyl y byddai’r mudiad yn gorfod ysgwyddo rhywfaint o faich y toriadau yn y sector cyhoeddus, roedd maint y toriadau hyn yn syndod mawr”.

Fel esboniodd Iwan: “Dros y degawdau, mae’r CFfI wedi elwa o gefnogaeth neilltuol gan bobl cefn gwlad, rhanddeiliaid a mudiadau’r sector cyhoeddus. Rydym yn galw ar bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig i’n helpu ni sicrhau dyfodol y mudiad hwn sydd wedi bod o fudd i filoedd lawer o bobl ifanc dros y blynyddoedd.”

Mae swyddogion CFfI Cymru eisoes wedi cynnal cyfarfodydd adeiladol â rhai Aelodau blaenllaw o’r Cynulliad a gydag uwch-swyddogion y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans.

Mae’r mudiad hefyd yn awyddus iawn i gwrdd ag uwch-swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, gweision sifil a rhagor o Aelodau’r Cynulliad i sicrhau cefnogaeth.

Rhannu |