Mwy o Newyddion
Cau Stryd Fawr Aberteifi dros dro
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw hanfodol yng nghyffiniau’r Stryd Fawr, Aberteifi.
hagwelir i’r gwaith gymryd tair wythnos i’w gwblhau gan ddechrau ar 2 Mawrth. Bydd angen cau’r Stryd Fawr am gyfnod o bythefnos o’r dyddiad hwn i sicrhau diogelwch y cyhoedd a’r gweithlu a fydd yn ymgymryd â’r gwaith.
Hwylusir derbyn nwyddau a gwasanaethau hanfodol hyd eithaf y gallu ond cydnabyddir y bydd cau’r briffordd yn arwain at anghyfleustra sylweddol tra ymgymerir â’r gwaith.
Ac eithrio unrhyw amgylchiadau nas rhagwelwyd, bydd y Cyngor yn ymdrechu i gwblhau’r gwaith mor brydlon ag y sydd yn bosibl er mwyn lleihau effaith y cau. Gwyddys fod gan y gwasanaethau offer tanddaearol sylweddol yn y cyffiniau.
Bydd mynediad i gerddwyr drwy gydol y cyfnod.
Am unrhyw wybodaeth pellach cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt ar 01545 572572 neu drwy gyfrwng e-bost at hpw@ceredigion.gov.uk