Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Ionawr 2015

Cadw Gŵyr yn arbennig

Bydd cadw etifeddiaeth gyfoethog a diwallu anghenion byw yn yr 21ain ganrif yn rhan o gynllun wedi'i ddiweddaru i reoli Gŵyr.

Yn ddiweddar, mae ymgynghoriad ar Gynllun Rheoli presennol AoHNE Gŵyr wedi dod i ben a bydd yn helpu i'w ddiweddaru er mwyn diwallu anghenion pobl sy'n byw'n lleol ac yn gweithio ar y dirwedd arbennig hon.

Mabwysiadwyd y cynllun presennol gan y cyngor ac fe'i cyhoeddwyd yn 2006.

Roedd y cynllun gwreiddiol yn cynnwys gweledigaeth ar sut byddai'r ardal yn edrych ymhen 20 mlynedd, a chynllun gweithredu manwl 5 mlynedd.

Yn ystod yr adolygiad, cafodd y cynllun gweithredu 5 mlynedd ei ddiweddaru i ystyried effaith newid yn yr hinsawdd, yn ogystal ag edrych ar ddiogelu'r amgylchedd naturiol a mynd i'r afael â materion eraill megis tai fforddiadwy.

Mae'r cynllun hefyd yn edrych ar sut mae'r gwaith parhaus o wella'r ddarpariaeth band eang a symudol yn mynd rhagddo, gan ystyried natur sensitif yr AoHNE.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Er bod y cynllun presennol yn cynnwys gweledigaeth 20 mlynedd fanwl, mae'n gwneud synnwyr i'w adolygu er myn sicrhau ei fod yn addas i'r diben.

"Fel y gŵyr pawb, Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn y DU i gael ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'n bwysig bod y cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol, grwpiau cymunedol, preswylwyr ac eraill er mwyn sicrhau bod gennym gynllun a all ofalu am le mor arbennig."

Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Rhagfyr 2014 gyda'r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau lleol yn mynegi barn ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Ychwanegodd y Cyng Davies, "Mae miloedd o deuluoedd yn byw ym Mhenryn Gŵyr ac mae miliynau mwy yn ymweld â'r ardal bob blwyddyn. Gan fod yr ymgynghoriad bellach wedi dod i ben, gallwn edrych ar yr adborth a sicrhau ein bod yn diweddaru'r cynllun gweithredu i ystyried yr holl sylwadau a wnaed.

Rhannu |