Mwy o Newyddion
Bu llymder yn boen i gyd heb ddim elw i bobl Cymru
Mae llymder wedi methu yn ôl ei safonau ei hun, ac yn ei le, dylid cael agenda o degwch economaidd. Dyna oedd neges Leanne Wood ddoe wrth iddi amlinellu pam nad yw llymder yn anorfod i Gymru.
Galwodd arweinydd Plaid Cymru am derfyn i economeg llymder, gan ddweud, ar waethaf blynyddoedd o doriadau milain:
· Mae dyled y DG mewn gwirionedd wedi cynyddu dros einioes y llywodraeth ddiweddaraf i £1.4 triliwn
· Mae un asiantaeth wedi israddio’r raddfa gredyd bwysfawr A-driphlyg
· Y DG yw’r unig wlad o’r G7 i gofnodi anghydraddoldeb cyfoeth nas gwelwyd erioed o’r blaen rhwng 2000 a 2014.
Dywedodd Leanne Wood mai dewis Plaid Cymru yn lle llymder yw agenda o degwch economaidd, fyddai’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar y llywodraeth i sicrhau fod polisi macro-economaidd wedi ei anelu at lefelu cyfoeth y pen tuag i fyny.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru:
“Nid yw Plaid Cymru yn derbyn fod unrhyw beth yn anorfod ynghylch ein tlodi.
“Nid ydym chwaith yn derbyn fod llymder yn anorfod.
“Mae gennym ni obaith, a gwyddom fod ffordd wahanol yn bosib.
“Yr ydym eisiau gosod dyletswydd gyfreithiol ar y llywodraeth i gyfeirio polisi macro-economaidd at lefelu cyfoeth y pen tuag i fyny - byddai hyn yn creu economi decach o lawer o ran ffyniant a chyfle.
“Ymysg mesurau eraill fyddai’n deillio o’r ddyletswydd gyfreithiol hon fyddai cronfa gydgyfeiriant fel sydd i’w gael yn yr Undeb Ewropeaidd lle mae ardaloedd sy’n tanberfformio yn cael eu cefnogi, polisi’r sector diwydiannol yn ail-gydbwyso’r economi ymaith oddi wrth wasanaethau ariannol a thuag at weithgynhyrchu ac uwch-beirianneg, system lle mae’r ardaloedd gyda’r GVA isaf yn cael blaenoriaeth o ran gwario a buddsoddi.
“Rydym eisiau codi’r isafswm cyflog i gyflog byw am y dylai diwrnod o waith dalu cyflog teg.
“Mae egwyddor i’w gynnal.
“Ddylai neb orfod gweithio’n llawn-amser heb allu ennill digon i fyw arno.
“Ac yr ydym yn credu y gall y sector cyhoeddus fod yn rym er daioni.
“Yr ydym yn gwrthod y gystadleuaeth hon rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat.
“Os gall gwasanaeth rheilffordd ddarparu gwell gwasanaethau a gwell gwerth am arian mewn dwylo cyhoeddus, bydded felly.
“Os ydym eisiau prisiau ynni wedi eu cadw i lawr drwy’r amser – nid dim ond adeg etholiad – yna gadewch i ni dorri monopoli’r chwech mawr gyda chwmni cyhoeddus.
“Dewis yw llymder ac economeg dilyffethair y farchnad.
“Law yn llaw â’r dewis a wneir ynghylch cefnogi llymder neu beidio y mae a ydynt yn cefnogi ymreolaeth i Gymru ai peidio.
“Gallwn benderfynu drosom ein hunain a ydym am ddilyn llwybr gwahanol i ras San Steffan at y gwaelod.
“Trwy fynnu a sicrhau cydraddodleb pwerau a chydraddoldeb adnoddau i’n cenedl, trwy ennill ymreolaeth, gallwn wneud mwy nac adeiladu’r wlad y mae ein pobl eisiau, ond hefyd gallwn osod yn eu lle gerrig sylfaen y gymdeithas yr ydym am ei chreu.
“Mae cydraddoldeb adnoddau yn golygu y caiff Cymru yr un gwariant y pen â’r Alban.
“£1.2 biliwn yn ychwanegol i fuddsoddi yn ein gwlad a’n cymunedau.
“Nid gofyn yr ydym am fwy na’r hyn sy’n ddyledus, ond ni ddylem setlo am ddim llai.”