Mwy o Newyddion
Croesawu arolwg ar y defnydd o'r iaith Gymraeg
Heddiw [dydd Iau, 29 Ionawr] croesawodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, gyhoeddiad arolwg manwl o’r ffordd y mae pobl yn defnyddio'r Gymraeg.
Mae Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 yn arolwg a gomisiynwyd ar y cyd sy'n rhoi darlun cynhwysfawr o'r defnydd y mae siaradwyr Cymraeg yn ei wneud o'r iaith. Holwyd cwestiynau eang i oedolion a phlant sy'n siarad Cymraeg i weld pa mor dda y gallant siarad yr iaith, pa mor aml, ble a phryd y maent yn ei ddefnyddio ac â phwy. Mae'r adroddiad heddiw yn darparu'r canlyniadau o flwyddyn gyntaf yr arolwg (2013-14).
Mae'r rhan fwyaf o'r rheini sy'n rhugl yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn defnyddio'r iaith yn rheolaidd i gael gafael ar wasanaethau ac yn y gweithle. Hefyd, mae mwy o bobl yn siarad ychydig o Gymraeg neu ychydig o eiriau yn unig. Ar yr un pryd, mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yng Nghymru ychydig yn is yn gyffredinol o'i gymharu â'r arolwg blaenorol (ond nid i raddau arwyddocaol yn ystadegol).
Mae'r arolwg hwn yn edrych ar y defnydd a wneir o'r iaith. Ond canlyniadau Cyfrifiad 2011 yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth o hyd am y tueddiadau yn nifer y siaradwyr Cymraeg, am eu bod yn cynnig tueddiad hanesyddol hirdymor dibynadwy a data ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi cydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg ar yr arolwg pwysig hwn - mae'n rhoi darlun amserol a defnyddiol iawn o'r defnydd a wneir o'r iaith ar draws Cymru. Mae llawer o bethau cadarnhaol yng nghanfyddiadau'r adroddiad ond mae yna heriau o'n blaenau hefyd. Mae'n adeg hollbwysig i'r iaith ac rydym, fel Llywodraeth, yn parhau'n benderfynol o fynd i'r afael â'r heriau hyn a sicrhau bod gan yr iaith ddyfodol ffyniannus a diogel.
"Mae annog pobl i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd wrth wraidd Bwrw Mlaen, ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith. Bydd y Safonau newydd, a gaiff eu cyflwyno gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth, hefyd yn garreg filltir bwysig gan greu hawliau cyfreithiol clir.
"Mae'n hanfodol bod pobl yn cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg a magu hyder, a hynny mewn addysg, yn y gweithle neu'n gymdeithasol. Mae llawer iawn o waith da eisoes yn mynd rhagddo ar draws Cymru sy'n atgyfnerthu ein gweledigaeth o ganolbwyntio ar gynyddu'r defnydd o'r iaith a nifer y siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gallwn adeiladu ar hyn a sicrhau iaith fyw ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Roedd cydweithio â’r Llywodraeth ar gomisiynu’r gwaith ymchwil sylweddol hwn yn bwysig i mi. Mae’n rhoi sail dystiolaeth gadarn; a bydd yn fy ngalluogi i fel Comisiynydd, y Llywodraeth a’r llu o sefydliadau a mudiadau sy’n gweithio tuag at wneud y Gymraeg yn ganolog i fywyd yng Nghymru i gynllunio’n gwaith a’n blaenoriaethau. Gall data ac ymchwil arwain at ganlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr y Gymraeg, fel y mae’r ymateb i’n hymholiad i faes gofal sylfaenol wedi ei brofi.
“Adroddiad interim yw hwn, ac edrychaf ymlaen at weld cyhoeddi’r adroddiad llawn, yn seiliedig ar ragor o dystiolaeth, erbyn diwedd y flwyddyn.
“Un o swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yw cynhyrchu adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg. Bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn bwysig wrth i mi baratoi’r adroddiad hwnnw a bydd yn cyfoethogi’r ddealltwriaeth ynglŷn â safle’r iaith mewn gwahanol agweddau ar fywyd gan unigolion a chymunedau ar draws Cymru.”