Mwy o Newyddion
Datblygiadau ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd
Mae Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth wedi amlinellu camau nesaf y prosiect i adeiladu ffordd osgoi newydd yr A487 Caernarfon i Bontnewydd.
Cafodd y contract ar gyfer y prosiect ei ddyfarnu i Jones Bros a Balfour Beatty y mis diwethaf, a byddant yn dechrau arolygon amgylcheddol a pheirianyddol ar hyd coridor y llwybr yn fuan. Bydd arddangosfeydd cyhoeddus yn digwydd ym mis Mawrth i gyflwyno tîm y prosiect, i amlinellu'r cynigion ac i egluro amserlen y cynllun.
Ar yr amod bod pob proses statudol ac unrhyw ymholiad cyhoeddus wedi'u cwblhau, mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ar ddiwedd 2016.
Meddai'r Gweinidog: "Rwy'n falch o weld y datblygiadau sy'n cael eu gwneud ar y prosiect pwysig hwn, fydd yn gwella amseroedd teithio a diogelwch ar yr A487 yn ogystal â gwella ansawdd bywyd trigolion lleol."
Bydd y ffordd osgoi yn 9.8km o hyd, gan ddechrau o gylchdro y Goat A499/A487 a dod i ben ar gylchdro presenol Plas Menai yr A487. Bydd yn creu ffordd osgoi i'r gorllewin at Llanwnda Dinas a Bontnewydd cyn croesi'r A487 presennol i'r de o Chwarel Caernarfon. Yna bydd yn croesi'r Afon Seiont, yn pasio i'r de o Ystad Ddiwydiannol Cibyn i gyffordd yr A4086. Wedi croesi'r B4366 mae'r llwybr yn disgyn yn serth i gylchdro Plas Menai.
Mae'r contract yn fenter ar y cyd rhwng y contractwr lleol Jones Bros a Balfour Beatty. Byddant yn derbyn cymorth Parsons Brinckerhoff a TACP fel eu cynghorwyr technegol ac amgylcheddol.