Mwy o Newyddion
Llai o bobl yn marw o ddiabetes yng Nghymru
Mae nifer y bobl sy’n marw o gyflyrau sy’n gysylltiedig â diabetes yng Nghymru yn parhau i ostwng, tra bod cyfanswm y gost i GIG Cymru o ddarparu gofal ar gyfer yr afiechyd yn fwy na hanner biliwn o bunnau’r flwyddyn, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru.
Mae adroddiad blynyddol cyntaf Cymru gyfan ar ofal diabetes y GIG yn disgrifio’r cynnydd a wnaed yn erbyn cynllun Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes, dros y 12 mis diwethaf.
Ymysg y prif ganfyddiadau mae’r canlynol:
* Roedd gwariant mewn ysbytai yng Nghymru yn 2012-13 ar ddiabetes bron â chyrraedd £90m, sy’n gynnydd o 4% o’i gymharu â 2011-12.
* Mae gwariant gan y GIG ar ofal sy’n gysylltiedig â diabetes yn gyfanswm o bron i £500m y flwyddyn;
* Yn 2013, bu farw 300 o bobl oherwydd diabetes. Mae hyn wedi gostwng o 420 o farwolaethau yn 2009;
* Mae hanner yr holl farwolaethau oherwydd diabetes yn deillio o glefyd cardiofasgwlaidd gan gynnwys trawiadau ar y galon a strociau. Yn 2001, yng Nghymru, bu farw bron 14,000 o bobl o glefyd cardiofasgwlaidd. Erbyn 2011 roedd y cyfanswm hwn wedi gostwng i ychydig dros 9,000 o farwolaethau;
* Bu gostyngiad o fwy na 230 o gleifion yn nifer y derbyniadau brys ar gyfer pobl ddiabetig, o 2,815 i 2,584 rhwng 2010 a 2013.
* Amcangyfrifir bod tua 66,000 o bobl â diabetes math 2 heb ei ddiagnosio yng Nghymru.
* Mae pobl sy’n byw mewn rhannau tlotach o Gymru’n fwy tebygol o ddioddef diabetes a’i gymhlethdodau na’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy ffyniannus;
* Mae rhwng 2 a 10% o famau beichiog yn datblygu diabetes yn ystod beichiogrwydd, sy’n ei wneud yn un o’r problemau iechyd mwyaf cyffredin yn ystod beichiogrwydd;
* Dywedodd 84% o’r cleifion mewnol eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn â’r gofal cyffredinol am eu diabetes tra’r oeddent yn yr ysbyty.
* Nid yw 60% o’r oedolion â diabetes math 1 a 33% o’r oedolion â diabetes math 2 yn cael y profion a’r archwiliadau blynyddol sy’n gysylltiedig â’r safonau cenedlaethol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething: “Fel gwlad rydyn ni’n wynebu cynnydd enbyd yn nifer y bobl sydd â diabetes. Y gwirionedd yw mai diabetes math 2 sy’n gyfrifol am lawer o’r cynnydd hwn oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio a bod llawer ohonom dros bwysau. Mae gan hyn oblygiadau difrifol i iechyd pobl ac mae’n rhoi pwysau ychwanegol ar ein GIG.
“O roi hynny yn ei gyd-destun, rydyn ni bellach yn gwario £500m y flwyddyn ar ofal sy’n gysylltiedig â diabetes allan o gyllideb iechyd o £6 biliwn y flwyddyn.
“Rydyn ni’n cymryd camau i roi diagnosis i bobl â diabetes cyn gynted â phosib a lleihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r cyflwr. Er ein bod yn gwneud cynnydd da, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i ofalu am ein hiechyd ein hunan a sicrhau nad ydyn ni’n rhoi ein hunan yn agored i ddiabetes.”
Dywedodd Dr Andrew Goodall, prif weithredwr GIG Cymru: “Rwy’n falch ein bod yn gwneud cynnydd o ran diabetes, ac mae llawer o’r clod am hyn i’r staff ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi cleifion a gofalwyr i reoli eu salwch. Mae angen inni adeiladu ar hyn a cheisio gwneud gwelliannau pellach i bobl Cymru.
“Bydd angen ymdrech ar y cyd rhwng y gwasanaeth yn GIG Cymru ac aelodau’r cyhoedd. Gordewdra yw’r prif ffactor risg ar gyfer diabetes math 2 ymhob oedran. Yn 2013 roedd 58% o holl oedolion Cymru dros bwysau neu’n ordew. Golyga hyn fod angen i lawer ohonon ni newid ein ffordd o fyw os ydym i fynd i’r afael â diabetes yn effeithiol yn y dyfodol.”