Mwy o Newyddion
Abertawe i anrhydeddu gwyddonydd blaengar
Mae gwyddonydd a chyfreithiwr nodedig o'r 19eg ganrif yn cael ei anrhydeddu yn ei ddinas enedigol, Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe'n dadorchuddio plac glas i Syr William Grove yng nghanol y ddinas heddiw.
Caiff y plac, a gefnogir gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, ei roi y tu allan i bencadlys yr Heddlu yn Grove Place - y man lle'r oedd Grove yn byw mewn tŷ o'r enw The Laurels yn ystod ei amser yn Abertawe.
Ganed Grove, sefydlydd Cymdeithas Llenyddol ac Athronyddol Abertawe, yn Abertawe ym 1811. Ym 1842, datblygodd ei gell danwydd gyntaf sy'n cynhyrchu ynni trydanol drwy gyfuno hydrogen ac ocsigen.
Graddiodd Grove o Brifysgol Rhydychen, a daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1853 a chafodd ei urddo'n farchog ym 1872.
Bu farw Grove ym 1896 ac mae wedi'i gladdu ym Mynwent Kensal Green yn Llundain. Bydd yr Athro John Tucker a David Lovering o Brifysgol Abertawe a'r Athro David Hart o Goleg Imperial Llundain, yn rhoi areithiau cyn i'r Cyng. Robert Francis-Davies o Gyngor Abertawe ddadorchuddio'r plac.
Meddai'r Cyng. Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Nod ein cynllun placiau glas yw cydnabod ac anrhydeddu pobl sydd wedi rhoi Abertawe ar y map dros amser drwy gyflawni pethau gwych. Mae Syr William Grove, fel arweinydd cyfraith a gwyddoniaeth yn y 19eg ganrif, yn sicr yn haeddu'r clod.
"Mae'r clod y mae'n ei dderbyn o hyd yn dweud cyfrolau am ei ddawn arbennig ddiamser ac mae'n hanfodol bod y cyngor yn nodi ac yn dathlu ei wreiddiau yn Abertawe yn y ffordd hon oherwydd bod stori ei fywyd yn ddiddorol iawn i breswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas.
"Roedd Syr William yn ddyn deallus iawn a oedd wedi cynnal cysylltiadau agos ag Abertawe nes iddo farw. Rydym yn falch o'i alw'n un o feibion mwyaf medrus ein dinas."
Y person diwethaf a dderbyniodd plac glas yn Abertawe oedd y fforiwr pegynol, Edgar Evans, yn ei fan geni yng Ngŵyr. Roedd Evans yn un o bum dyn yng Ngrŵp Antarctig Prydeinig Capten Scott i gyrraedd Pegwn y De ym 1912, i ddarganfod bod grŵp Ronald Amundsen, y fforiwr o Norwy, wedi'u curo o 33 diwrnod.
Mae pobl eraill sydd wedi derbyn plac yn cynnwys y bardd a thorrwr codau Bletchley Park, Vernon Watkins, y canwr Badfinger, Pete Ham, y nofelydd gothig, Ann of Swansea, y cenhadwr, Griffith John, yr ymgyrchydd dros hawliau menywod, Emily Phipps, a Pharc Cwmdoncyn.