Mwy o Newyddion
Cefnogi cynlluniau 'cyffrous' canol Abertawe
Mewn cyfarfod Cabinet lle cymeradwywyd nifer o gynigion ar gyfer canol dinas Abertawe, dywedodd y Cyng. Rob Stewart mai dyma'r adeg i gyflwyno canol dinas y mae pobl Abertawe'n ei haeddu.
Tynnodd y Cyng. Stewart sylw at nifer o ffactorau a fydd o blaid canol y ddinas, gan gynnwys arweinyddiaeth Syr Terry Matthews o Fwrdd Dinas-ranbarth Bae Abertawe; cefnogaeth leol, genedlaethol a Llywodraeth Cymru; a photiau arian a allai fod ar gael.
Ymysg y cynigion a gymeradwywyd yr oedd gwerthu Canolfan Ddinesig Heol Ystumllwynarth mewn egwyddor, yn amodol ar baratoi achos busnes manwl i'w ystyried, a marchnata safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant i ddatblygwyr yn nes ymlaen y mis hwn.
Hefyd, cymeradwywyd adeiladu adeilad dinesig newydd ar Ffordd y Brenin neu yng nghanol y ddinas, yn amodol ar baratoi cynllun gweithredu i'w ystyried yn ogystal ag ymgynghoriad ar Fframwaith Strategol Canol Dinas Abertawe diwygiedig - dogfen a fydd yn arwain adfywio dros y blynyddoedd nesaf.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae cyfle go iawn gyda ni yma. Mae'r wlad yn dod mas o'r dirwasgiad, mae marchnadoedd yn gwella ac mae ffynonellau arian ar gael i ni eu defnyddio. Mae pobl Abertawe wedi aros yn rhy hir am ganol dinas maen nhw'n ei haeddu. Mae Abertawe'n fwrlwm ar hyn o bryd, ond mae angen i ni barhau i fagu momentwm a hyder. Mae angen i hyn fod am gyflwyno, nid cynlluniau. Dwi'n credu y gallwn ni gyflwyno ac y gwnawn ni gyflwyno."
Mae datblygiad defnydd cymysg wedi'i glustnodi ar gyfer safle Dewi Sant, gan gynnwys siopau, sinema newydd, sgwâr cyhoeddus, bwytai a llety preswyl. Bydd datblygiad swyddfa 100,000 troedfedd sgwâr yn cael ei ystyried ar gyfer safle maes parcio presennol Dewi Sant, gyda maes parcio strategol newydd yn yr arfaeth ar gyfer maes parcio presennol yr LC sydd dros y ffordd os caiff y datblygiad swyddfa ei gymeradwyo yn y dyfodol.
Rhagwelir datblygiad eiconig ar y glannau ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Mae dyletswydd arnon ni i gyflwyno canol dinas bywiog, hyfyw i'r bobl sy'n byw yn Abertawe a dwi'n fwy cyffrous am y cynlluniau hyn na dwi wedi bod ers bod gyda'r awdurdod lleol, sef rhyw 20 mlynedd. Mae'r bwrlwm am ganol y ddinas yn f'atgoffa o'r 1980au pan oedd llawer o bethau cadarnhaol yn digwydd yn yr Ardal Forol. Mae angen i ganol y ddinas fod yn gyrchfan lle mae siopau, ond sydd hefyd yn cymysgu manwerthu, hamdden a diwylliant ag amgylchedd o safon a llawer o bobl yn gweithio ac yn byw yno i roi hwb i fywiogrwydd a chynyddu nifer yr ymwelwyr."
Dywedodd y Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, y byddai trafnidiaeth a chysylltiadau i gerddwyr a beicwyr hefyd yn cael ystyriaeth ddifrifol fel rhan o'r cynlluniau i sicrhau bod canol y ddinas mor hygyrch ag y bo modd i bawb.
Hefyd, cymeradwyodd y Cabinet yr egwyddor am raglen gaffael eiddo ar Ffordd y Brenin i gefnogi ei thrawsnewid yn ardal fusnes ganolog.