Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ionawr 2015

Rhowch y grym i bobl Cymru benderfynu ar ffracio

Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Food Llyr Gruffydd, wedi galw ar i Gymru gael yr un pwerau a’r Alban i amddiffyn ei chymunedau rhag ffracio.

Heriodd Llyr Gruffydd y Gweinidog Adnoddau Naturiol ynghylch y cynnydd a wnaed i ddatganoli’r pŵer dros ffracio i Gymru.

Pan honnodd y Gweinidog fod “llawer o sgyrsiau” wedi digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG ar y mater, tynnodd AC Plaid Cymru at y ffaith fod Gweiniodg Ynni y DG yr wythnos ddiwethaf wedi dweud wrth Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru nad oedd “unrhyw drafodaethau” wedi digwydd.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Food Llyr Gruffydd: “Dylai pobl Cymru gael y pŵer i benderfynu ar drwyddedu am ffracio yn eu cymunedau. Mae Plaid Cymru eisiau i Gymru gael y cyfrifoldeb dros ffracio fel y gallwn gyflwyno moratoriwm ar broses sydd â llawer o beryglon anhysbys i’r amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Mae Llywodraeth yr Alban wedi peri i hyn ddigwydd yno, ond yn anffodus, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud affliw o ddim i sefyll dros fuddiannau Cymru.

“Mae’n amlwg bellach na wnaeth y Llywodraeth Lafur unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DG am ddatganoli’r pwerau hyn, sydd yn awgrymu nad yw Llafur yn gweld unrhyw angen i herio polisi San Steffan o hybu ac annog ffracio yng Nghymru.

“Ar ben hyn, gwrthododd Llafur gefnogi gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru i Fesur Seilwaith Llywodraeth y DG i eithrio Cymru o fesurau fuasai wedi caniatáu ffracio dan gartrefi pobl. Mae gan yr Alban y warchodaeth hon eisoes. Pam trin Cymru yn wahanol?

“Mae amharodrwydd y  Llywodraeth Lafur i ymladd dros y pwerau hyn yn ei gwneud yn amlwg eu bod yn hapus i weld cwmnïau yn tyllu am nwy siâl dan gartrefi Cymru. Ni fydd Plaid Cymru, ar y llaw arall, yn sefyll heb wneud dim a gadael i’n cymunedau gael eu gadael yn agored i beryglon mor annerbyniol.”

Rhannu |