Mwy o Newyddion
Canmol ymdrechion i fynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal
Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething wedi canmol gwaith staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol am eu gwaith caled wrth leihau’r achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ystod mis Rhagfyr.
Yn ôl yr ystadegau swyddogol diweddaraf, a gyhoeddir heddiw (Dydd Iau Ionawr 22), nifer y cleifion a oedd yn destun oedi wrth drosglwyddo gofal yng nghyfnod cyfrifiad Rhagfyr oedd 402, sef gostyngiad o 14% o’i gymharu â mis Tachwedd. Ym mis Rhagfyr 2013, y ffigur oedd 423.
Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn cyfeirio at gleifion yn ysbytai’r GIG sy’n barod i symud ymlaen at gam nesaf eu gofal, gan gynnwys cael eu rhyddhau o’r ysbyty ond sy’n destun oedi am un neu ragor o resymau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething: “Mae ein staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn cydweithio drwy gydol mis Rhagfyr, gan gynnwys dros gyfnod yr Ŵyl, i sicrhau bod cleifion yn cael gofal iechyd o’r radd flaenaf ac i achosi cyn lleied o oedi â phosibl i ofal cleifion.
“Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod gostyngiad o 14% wedi bod yn yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o’i gymharu â mis Tachwedd. Mewn gwirionedd ym mis Rhagfyr roedd yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ar eu hisaf ers pum mlynedd ar gyfer y mis hwnnw.
“Rydym wedi cymryd camau pendant i fynd i’r afael â nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a hynny ar adeg pan fo GIG Cymru yn trin mwy o gleifion nag erioed yn ei hanes. Byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â’r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn gallu ymadael â’r ysbyty neu fynd ymlaen at gam nesaf eu gofal cyn gynted â’u bod yn ffit yn feddygol i wneud hynny.
“Rydym yn buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG, gyda swm ychwanegol o hanner biliwn o bunnoedd yn y flwyddyn ariannol hon i helpu’r gwasanaeth iechyd i fodloni’r galwadau cynyddol.”
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru swm ychwanegol o £40m yr wythnos diwethaf er mwyn i GIG Cymru barhau i fodloni’r galwadau ychwanegol arno dros gyfnod y gaeaf.