Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ionawr 2015

Buddsoddiad o £10m mewn gofal sylfaenol

Bydd buddsoddiad sylweddol o £10m yng ngwasanaethau gofal sylfaenol Cymru yn golygu y bydd ystod ehangach o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu darparu gofal yng nghartrefi pobl neu’n agos atynt, gan ryddhau amser ac arbenigedd meddygon teulu i ofalu am bobl ag anghenion mwy cymhleth, dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, heddiw.

Wrth annerch ail gynhadledd prif weithredwyr y GIG ar ofal sylfaenol yng Nghaerdydd, dywedodd yr Athro Drakeford y bydd y gronfa gofal sylfaenol yn helpu i leddfu’r pwysau ar feddygon teulu a’u timau ac yn lleihau’r galw ar ofal ysbytai drwy wella mynediad at wasanaethau iechyd lleol o ansawdd.

Bydd y buddsoddiad yn 2015-16 yn helpu i gyflawni cynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a chadw pobl allan o’r ysbyty, ac yn adeiladu ar y cyllid ychwanegol o £3.5m ar gyfer gofal sylfaenol yn 2014-15.

Gan ddilyn yr egwyddor mai’r rheini sy’n darparu gwasanaethau sy’n gwybod orau, bydd y rhan fwyaf o’r gronfa – £6m – yn cael ei ddyrannu i’r 64 o ‘glystyrau’ gofal sylfaenol ledled Cymru – grwpiau o feddygfeydd teulu yn cydweithio gyda gwasanaethau cymunedol fel fferyllwyr, deintyddion, optometryddion, therapyddion, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd. 

Mae’r clystyrau hefyd yn gweithio gyda phob math o wasanaethau y mae gwirfoddolwyr yn eu darparu mewn cymunedau a byddant yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau iechyd i grwpiau o rhwng 25,000 a 100,000 o bobl.

Dyma enghreifftiau o’r hyn y gallai’r buddsoddiad hwn o £6m ei gefnogi:

Ystod ehangach o weithwyr proffesiynol, fel fferyllwyr a ffisiotherapyddion, yn rhan integredig o wasanaethau meddygon teulu a thimau lleol a all ddarparu gofal yn y cartref ddydd a nos. Bydd hyn yn helpu pobl â chyflyrau hirdymor i reoli eu hiechyd a’u meddyginiaeth, cadw eu hannibyniaeth drwy osgoi derbyniadau annisgwyl i’r ysbyty a chael cymorth parhaus ar ôl eu rhyddhau o’r ysbyty. Bydd y cymorth clinigol ehangach hwn yn rhyddhau amser ac arbenigedd meddygon teulu i ofalu am bobl ag anghenion mwy cymhleth;

?* Tîm cymorth gofal sylfaenol hyblyg i ddarparu gofal locwm neu roi hyfforddiant a chyngor ar gyfer rheoli pwysau ar wasanaethau lleol;
Mentrau cymunedol i fynd i’r afael â ffactorau lleol sy’n effeithio ar iechyd;
Cyfeiriaduron gwasanaethau lleol fel bod pobl yn gwybod pryd a ble i fynd i gael y cymorth iawn ar yr amser iawn;

* Cydgysylltwyr gofal;

?* Cydweithio rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol a gwasanaethau;

?* Hyfforddi a datblygu i ehangu a datblygu’r clystyrau gofal sylfaenol i greu cynghreiriau a gwaith partneriaeth lleol effeithiol rhwng pob gwasanaeth lleol, gan gynnwys llywodraeth leol a gwasanaethau’r trydydd sector, a mynd â gwasanaethau ysbytai traddodiadol i’r gymuned, lle bo hynny’n briodol. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau i bobl â diabetes a chyflyrau anadlol.

Bydd £3m yn cael ei roi i nifer o gynlluniau braenaru strategol ledled Cymru. Bydd byrddau iechyd a’u partneriaid yn datblygu cynigion penodol, gan gynnwys sut mae gwella mynediad at wasanaethau.

Mae £1m yn cael ei ddyrannu i nifer o brosiectau unwaith ar gyfer Cymru er mwyn helpu i gyflawni’r cynllun gofal sylfaenol. Mae’r rhaglen hon o waith cenedlaethol yn cael ei llunio ar y cyd gan fyrddau iechyd. Mae’n debygol o gynnwys cyfres o weithdai a ffyrdd eraill o rannu profiadau a dysg er mwyn hyrwyddo cydweithredu a gwaith partneriaeth i wella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u darparu.

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Ry’n ni’n symud o ganolbwyntio ar ofal mewn ysbytai i wella iechyd y cyhoedd a gofal yn y gymuned.

“Bydd y buddsoddiad dwi’n ei gyhoeddi heddiw yn galluogi ein clystyrau gofal sylfaenol lleol i fuddsoddi mewn gweithlu medrus, datblygu gwasanaethau yn ôl galw, a lle bo’n bosibl, darparu gofal yn agosach at gartrefi pobl, gan leddfu’r pwysau ar feddygon teulu a’u timau a’r galw am wasanaethau ysbytai.

“Ry’n ni hefyd yn buddsoddi mewn rhaglenni lleol i fynd i’r afael â’r elfennau cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd drwy gynllunio a darparu gofal mewn ffordd sy’n cyd-fynd ag angen, fel y rhaglen Living Well Living Longer, a lansiwyd ym Mlaenau Gwent rai wythnosau yn ôl sy’n targedu achosion sylfaenol clefyd cardiofasgwlaidd.” 

Rhannu |