Mwy o Newyddion
Prifysgol Aberystwyth yn croesawu’r myfyrwyr cyntaf i breswylfeydd newydd £45m
Croesawodd Prifysgol Aberystwyth y myfyrwyr cyntaf i letya ym mhreswylfeydd newydd Fferm Penglais ddydd Mercher.
Mae Fferm Penglais wedi ei lleoli yn union y tu ôl i’r pentref myfyrwyr arobryn Pentre Jane Morgan, ac o fewn pellter cerdded hawdd i gampws Penglais a Chanolfan Llanbadarn y Brifysgol.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, Rebecca Davies: “Rwyf wrth fy modd bod myfyrwyr wedi gallu symud i mewn i'w llety newydd ar Fferm Penglais heddiw, rhan gyntaf ein preswylfeydd myfyrwyr newydd. Mae'r datblygiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol i'r Brifysgol ac yr wyf yn hyderus bod y llety hwn gyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol.”
Ar ôl ei chwblhau, bydd Fferm Penglais yn darparu llety ar gyfer 1000 o fyfyrwyr, gyda 100 o fflatiau stiwdio.
Bydd 236 o fyfyrwyr yn symud i Fferm Penglais yn ystod yr wythnos hon, a bydd y safle yn llawn o fis Medi 2015.
Ysbrydolwyd dyluniad y datblygiad newydd gan dirwedd a phensaernïaeth Cymru wledig, ac mae’n cynnwys cyfres o adeiladau tri llawr gyda fflatiau i chwech neu wyth o fyfyrwyr mewn llety hunanarlwyo.
Mae pob adeilad yn cynnig ystafelloedd gwely en-suite hael, ceginau dwbl ac ardaloedd lolfa cynllun agored. Yr ystafelloedd unigol yw’r mwyaf sydd ar gael ym mhreswylfeydd y Brifysgol, ac mae pob ystafell yn cynnig digon o le i fyfyrwyr fyw ac astudio, a mynediad i'r rhyngrwyd drwy wifrau caled neu Wi-Fi.
Er mwyn hyrwyddo gweithgareddau dysgu a chymdeithasol ceir canolfan sy’n darparu ystod o adnoddau cymdeithasol a dysgu gan gynnwys golchdai, storfa beiciau, gofod cymunedol ar gyfer clybiau a chymdeithasau, a chaffi.
Yn ogystal â'r amgylchedd hardd, mae Fferm Penglais yn cynnig golygfeydd gwych ar draws Bae Ceredigion.
Ychwanegodd Rebecca Davies: “Rydym yn cydnabod bod cam cychwynnol y datblygiad wedi’i ohirio o ganlyniad i faterion adeiladu yn ymwneud â Balfour Beatty. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod y llety a ddarperir ar Fferm Penglais o'r safon uchaf posib, ac nid yw wedi cyfaddawdu ar ansawdd.
“Hoffwn ddiolch i'r holl fyfyrwyr am eu cefnogaeth, a diolch hefyd i’r holl dîm yn y Brifysgol sydd wedi gweithio tuag at gyflawnu prosiect rhagorol. Rydym nawr yn edrych ymlaen at gwblhau'r safle ym mis Medi 2015, a chroesawu mwy o fyfyrwyr i’n llety ardderchog yn Aberystwyth.”