Mwy o Newyddion
Trident - Llafur yn bradychu Cymru yn ôl Plaid Cymru
Mae Aelodau Seneddol o Gymru wedi bradychu eu hetholwyr drwy fethu â chefnogi galwad Plaid Cymru i gael gwared â rhaglen y taflegryn Trident, medd darpar-ymgeisydd y Blaid dros Orllewin Abertawe, Harri Roberts.
Dim ond chwech o Aelodau Seneddol ar draws gwledydd Prydain a bleidleisiodd dros gynnig gan y Blaid a'r SNP i atal y rhaglen i adnewyddu Trident - ar gost o £100 biliwn o leiaf dros fywyd 30-mlynedd y rhaglen (ar Nos Fawrth 20 Ionawr 2015).
"Mae'n warthus bod y Blaid Lafur yn cynghreirio gyda'r Torïaid i gyflwyno mwy o doriadau ar ôl yr etholiad nesaf - ac eto'n gwrthod â rhoi terfyn ar y gwastraff dieflig yma o arian cyhoeddus", meddai Mr Roberts, ymgynghorydd lleol ar fusnes a thechnoleg gwybodaeth.
"Gallai £100 biliwn gyflogi 150,000 o nyrsys ar draws gwledydd Prydain am 30 mlynedd, neu adeiladu hyd at 650,000 o dai newydd fforddiadwy."
Bydd etholiad San Steffan ym Mis Mai'n rhoi cyfle i bobl i ymwrthod â pholisïau cloff pleidiau Llundain, ychwanegodd.
"Fe allai carfan gref o Aelodau Seneddol Plaid Cymru a'r SNP ddal y fantol yn y senedd nesaf - a dyna'r unig ffordd o sicrhau y caiff Cymru chwarae teg".