Mwy o Newyddion
Adroddiadau Llywodraeth Cymru ar effeithlonrwydd y Gwasanaeth Tân yng Nghymru
Bydd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn cyhoeddi bod adroddiad newydd ar effeithlonrwydd Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae'r adroddiad, a gafodd ei gynhyrchu gan Brif Gynghorydd Tân ac Achub Cymru, yn dangos bod arbedion sylweddol eisoes wedi cael eu cyflawni gan y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, a bod cynnydd wedi’i wneud o ran paru adnoddau â risgiau.
Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod bod costau'r Gwasanaeth ar gyfer pob person a phob digwyddiad yn parhau i fod yn gymharol uchel yng Nghymru, ac mae hynny'n dynodi y gellir gwneud mwy i wella'r sefyllfa.
Bydd Leighton Andrews yn dweud: “Roeddwn i wedi comisiynu'r adroddiad hwn gan nad yw'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ddiogel rhag y pwysau ariannol difrifol sy'n effeithio ar y sector cyhoeddus; ac felly rhaid i'r Gwasanaeth gymryd camau ymarferol i sicrhau mwy o arbedion effeithlonrwydd.
“Rwy'n gwybod bod y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru wedi cymryd yr agenda hon o ddifrif, ac maen nhw wedi sicrhau rhai arbedion sylweddol yn ddiweddar.
"Ond, wrth i bwysau ariannol barhau i gynyddu, felly hefyd y bydd yr angen i adolygu pob agwedd ar y gwariant i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn briodol. Mae'n hanfodol bod arweinwyr yn y sector tân yn achub y blaen wrth sicrhau bod mwy o arian yn cael ei arbed."
Mae'r adroddiad yn archwilio arferion da gwasanaethau cyhoeddus eraill ar draws y DU, ac yn cyflwyno enghreifftiau ac argymhellion ar sut y gall yr Awdurdodau Tân ac Achub gyflawni mwy o arbedion heb beryglu diogelwch y cyhoedd.