Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2015

Cyn fyfyrwyr yn creu argraff ar fyd y theatr

Bydd 2015 yn flwyddyn fawr i rai o gyn fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae Gethin Evans ac Elgan Rhys wedi sefydlu cwmni drama dwyieithog gyda’r nod o greu gwaith cyffrous i gynulleidfaoedd ar draws Cymru.

Fel cwmni preswyl cyntaf Sherman Cymru yng Nghaerdydd, caiff Pluen lwyfan i berfformio sioeau newydd a gweithio gydag arbenigwyr i berffeithio eu crefft.

Mi wnaeth Gethin o Ddinbych ac Elgan o Bwllheli, Cyd Gyfarwyddwyr cwmni Pluen gyfarfod wrth astudio ar gwrs BA Theatr a Drama yn yr Atriwm, Prifysgol De Cymru.

Ar ôl graddio gweithiodd Elgan gyda Sherman Cymru, Dirty Protest a Theatr Iolo yn ogystal ag ysgrifennu 'Fi a Miss World' sef ffilm fer gafodd ei henwebu am BAFTA Cymru a gynhyrchwyd gan It's My Shout a S4C. 

Aeth Gethin yn ei flaen i weithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar nifer o gynyrchiadau megis Mametz i National Theatr Wales yn ogystal ag Arabian Nights a Romeo and Juliet gyda Sherman Cymru.

Roedd y ddau’n falch o ymuno i ffurfio Pluen a mynd ati i lwyfannu eu cynhyrchiad cyntaf, Llais/Voice yn Sherman Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a Gŵyl Ffrinj, Caeredin.

Yn ôl Gethin Evans, sydd newydd ei benodi’n Gynorthwydd Artistig gyda Sherman Cymru: ‘‘Rydym yn gyffrous iawn i fynd ati i sefydlu cwmni drama dwyieithog newydd a chael datblygu ein gwaith ymhellach gyda chefnogaeth cwmni theatr proffesiynol. Ni fyddai’r fenter hon wedi bod yn bosibl heb yr arweiniad a’r cymorth cyson a gawsom yn ystod ein hamser ym Mhrifysgol De Cymru.’’

Yn ôl Sera Moore Williams, Arweinydd BA Theatr a Drama o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol De Cymru: ‘‘Mae’r modd y mae Gethin ac Elgan wedi mynd ati i greu gwaith ac yn wir gwmni newydd, ac i leoli Pluen ar ganol y ddarpariaeth theatr yng Nghymru a thu hwnt yn dystiolaeth bod modd i bobl ifanc dorri cwys eu hunain ym myd y theatr, ac yn ysbrydoliaeth gobeithio i bawb sydd a’u bryd ar astudio a hyfforddi er mwyn gwneud hynny yn y dyfodol.’’

Mae gan Pluen wefan a chyfrif Facebook a Twitter neu e-bostiwch cwmnipluen@gmail.com am ragor o wybodaeth.

Rhannu |