Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Ionawr 2015

Gwyddonwyr o Aberystwyth yn cyfrannu at ddarganfod Beagle 2 ar y blaned Mawrth

Mae gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan bwysig yn narganfyddiad gweddillion Beagle 2, y glaniwr gofodol a gollwyd ar y ffordd i’r blaned Mawrth ar Ddydd Nadolig 2003.

Daethpwyd o hyd i Beagle 2, a oedd yn rhan o daith ofod Mars Express yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, wedi agor yn rhannol ar wyneb y blaned Mawrth.

Mae’r darganfyddiad yn dangos bod trefn 'Mynediad, Disgyniad a Glanio' Beagle 2 wedi gweithio a’i fod wedi glanio yn llwyddiannus.

Cysylltodd y tîm a oedd yn chwilio am Beagle 2 â Dr Laurence Tyler a Dr Matt Gunn o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth gan ofyn iddynt ddarparu delweddau 3D manwl o'r ardal lle y credwyd iddo lanio.

Gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol pwerus ‘Shape from Shading’ a ddatblygwyd gan Grŵp Roboteg y Gofod Prifysgol Aberystwyth, darparodd Dr Tyler fap o dirwedd yr ardal gan ddefnyddio delweddau a dynnwyd gan gamera HiRISE llong ofod NASA – Mars Reconnaissance Orbiter.

Mae Dr Tyler yn gobeithio defnyddio'r un dechneg i astudio'r safleoedd glanio arfaethedig ar gyfer taith crwydrwr ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn 2018.

Yr Athro Colin Pillinger o’r Brifysgol Agored oedd arweinydd Beagle 2 ac roedd yr Athro Dave Barnes o Brifysgol Aberystwyth yn allweddol i ddatblygiad un o nodweddion diffiniol y glaniwr, sef y fraich robotig.

Bu farw yr Athro Pillinger Mai 2014 a bu farw’r Athro Barnes ym mis Gorffennaf 2014.

Wrth sôn am ddarganfod Beagle 2, dywedodd Dr Tyler: "Mae'r newyddion wedi dod â lwmp i’m gwddf. Rwy'n falch iawn o glywed ei bod yn debygol fod Beagle 2 wedi glanio’n llwyddiannus ond yn drist nad yw Dave yma i weld hyn. Byddai wedi bod wrth ei fodd bod Beagle 2 wedi glanio’n ddiogel a heb ei losgi yn yr atmosffer.”

“Roedd y tîm a oedd yn chwilio am Beagle 2 eisiau gwybodaeth am y llethrau ar y tir yn yr ardal hon o’r blaned Mawrth. Roeddem yn gallu dangos iddynt bod yr ardal lle’r oedd y glaniwr i fod glanio yn wastad iawn.”

Yn sgîl marwolaeth annhymig yr Athro Barnes ym mis Gorffennaf 2014, mae Dr Tyler a Dr Gunn yn arwain y cyfraniad pwysig y mae Aberystwyth yn ei wneud i ExoMars.

Roedd yr Athro Barnes yn ymchwilio i ddulliau caffael ymreolaethol samplau gwyddonol taith ofod ExoMars, ac roedd yn gyd-ymchwilydd ar Gamera Panoramig (PanCam) gwyddonol y daith.

Bydd Dr Tyler yn bresennol yn y cyhoeddiad am y darganfyddiad o Beagle 2 yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar ddydd Gwener 16 Ionawr, 2015.

Rhannu |