Mwy o Newyddion
Cyhoeddi cymunedau'r arfordir sydd i elwa o £4.6 miliwn
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, wedi llongyfarch 21 o brosiectau cymunedau'r arfordir ledled Cymru sydd i elwa o gyfran o bron i £4.6 miliwn.
O dan Gronfa Cymunedau'r Arfordir Trysorlys y DU, mae grantiau ar gael i ariannu prosiectau sy'n hyrwyddo economi cymunedau'r arfordir ledled Prydain. Caiff y gronfa ar gyfer Cymru ei darparu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chronfa'r Loteri Fawr.
Heddiw, bu Lesley Griffiths yn llongyfarch y prosiectau - a fydd yn rhannu £4,591,612 - ar eu cynigion llwyddiannus. Meddai:
“Rydym am weld cymunedau bywiog, llewyrchus ar hyd arfodir Cymru. Bydd y gronfa hon yn ariannu ein gwaith i adfywio trefi arfordirol, gan hyrwyddo eu datblygiad economaidd yn ogystal â'u lleoliad fel cyrchfannau twristiaeth a diwylliannol pwysig.
“Bydd y cyllid yn golygu y gall y rhai hynny sydd â gwybodaeth leol ddatblygu prosiectau sy'n mynd i'r afael â'r sefyllfa benodol sy'n wynebu eu cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y gall y cynlluniau hyn fod o fudd i bobl leol a chefnogi ein gweledigaeth ehangach ar gyfer adfywio yng Nghymru."
Meddai Fran Targett, Cadeirydd, Pwyllgor Cronfa Cymunedau'r Arfordir Cymru: “Mae Cymunedau Arfordirol yn rhannu synnwyr cryf o le, a bydd y cyllid hwn yn rhoi hwb sydd i'w groesawu i ardaloedd yng Nghymru, drwy helpu i ddatblygu eu heconomi leol."
Cafodd Cronfa Cymunedau'r Arfordir ei chyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn 2011 i ddarparu cyllid ar sail ceisiadau am brosiectau sy'n cefnogi datblygiad yr economi leol mewn cymunedau arfordiol.
Cafodd y ceisiadau eu hystyried gan Bwyllgor Cymunedau'r Arfordir Cymru a'u cymeradwyo gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Yn ystod y broses ddethol, ystyriwyd sut y byddai'r cynlluniau ar gyfer twf economaidd yn mynd i'r afael ag anghenion a blaenoriaethau lleol, yn creu swyddi ac yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
Y 21 o brosiectau sydd i elwa yw:
* Bydd RSPB Cymru yn derbyn £267,843 am brosiect dwy flynedd i ddatblygu'r cyfleusterau presennol i ymwelwyr RSPB Cymru ar Ynys Lawd ar arfordir gorllewinol Ynys Môn er mwyn gwella'r profiad i'r ymwelydd.
* Bydd Cwmni Buddiannau Cymunedol Harbwr Porthcawl yn elwa o £297,597 i ddatblygu ardal y Marina/Harbwr ym Mhorthcawl drwy greu mwy o le i gychod, darparu gweithgareddau chwaraeon dŵr newydd yn ogystal â chyfleusterau addysgol ar gyfer ymwelwyr a phobl leol.
* Mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg i dderbyn £283,898 ar gyfer prosiect i ddatblygu darpariaeth gofal plant newydd llawn amser yn y Gymraeg yng Nghyffordd Llandudno ar arfordir Conwy.
* Bydd Cwm Harry Land Trust Ltd yn derbyn £75,000 i greu caffi newydd ar gyfer y Ganolfan Addysg ac Ymwelwyr Amgylcheddol, y tu allan i Dregarth, ger Bangor.
* Mae Cardiff Marine Group Ltd wedi derbyn £300,000 i wneud gwelliannau sylweddol i harbwr a marina Aberystwyth, gan uwchraddio'r seilwaith a'r gwasanaethau.
* Bydd Sustrans Limited yn elwa o £299,364 ar gyfer cynllun i adeiladu llwybr cerdded a beicio newydd sy'n cysylltu Pembre â Chydweli, ac yn rhoi mynediad uniongyrchol i Barc Gwledig Pembre a Llwybr Arfordir y Mileniwm - y ddau yn brif gyrchfan i dwristiaid.
* Mae Antur Waunfawr i dderbyn £238,056 i ddatblygu busnes presennol yng Nghaernarfon fel menter gymdeithasol a fydd yn gwerthu, llogi, trwsio ac ailgylchu beiciau. Bydd yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl sydd ag anableddau dysgu ac i bobl ifanc di-waith neu dan anfantais
* Mae Becws Islyn Bakery Ltd wedi derbyn £132,000 i ddatblygu busnes becws bach, sy'n cael ei redeg gan y teulu, ac sy'n eu galluogi i gynhyrchu cynnyrch crefft, er mwyn gwerthu cymaint â phosibl i bobl leol, twristiaid a busnesau lleol.
* Bydd Tape Community Music and Film Limited yn elwa o £224,304 ar gyfer prosiect dwy flynedd i sefydlu gŵyl ffilmiau flynyddol yn Sir Ddinbych a Chonwy.
* Mae Groundwork Gogledd Cymru i dderbyn £54,615 ar gyfer cynllun a fydd yn eu galluogi i brynu treisicl gwerthu pwrpasol ac i recriwtio staff i'w ddefnyddio ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, gan roi gwybodaeth i dwristiaid, cymorth cyntaf sylfaenol a lluniaeth i bobl sy'n defnyddio'r llwybr.
* Mae Chapel Bay Fort & Museum, yn Angle ar arfordir Sir Benfro wedi derbyn £270,626 i helpu i adfer yr Heneb unigryw hwn a gwella mynediad iddo. Bydd y safle ar agor i'r cyhoedd fel Amgueddfa a chanolfan ddehongli hanes milwrol a chymdeithasol Sir Benfro.
* Mae Cyngor Bro Morgannwg i dderbyn £224,760 i sicrhau cymaint o waith â phosib ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg, drwy annog busnesau newydd i ddatblygu.
* Bydd Menter Aberteifi Cyfyngedig yn elwa o £109,974 i ail-sefydlu a datblygu Neuadd Farchnad Aberteifi fel canolfan fusnes gynaliadwy ar gyfer masnachwyr a microfentrau.
* Mae Rheilffordd Dyffryn Rheidol wedi derbyn £288,000 i ddarparu hyfforddiant sgiliau treftadaeth o safon ar Reilffordd Dreftadaeth Dyffryn Rheidiol.
* Bydd Cyngor Tref Nefyn yn derbyn £300,000 i wella rhan o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Nefyn a Morfa Nefyn i'w wneud yn addas ar gyfer pobl sydd ag anableddau a theuluoedd ifanc, yn ogystal ag ail-agor rhan o'r llwybr 10 milltir hanesyddol o Nefyn i Lanbedrog.
* Mae Cyngor Sir Ceredigion i dderbyn £150,718 i godi proffil arfordir Ceredigion fel lle i ymweld ag ef gydol y flwyddyn.
* Bydd Bluestone Brewing Company Limited yn elwa o £80,746 i gynnal prosiect blwyddyn i ddarparu cyfleusterau i ymwelwyr, cyfleusterau swyddfa a storio o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
* Mae Siambr Fasnach a Thwristiaeth Abergwaun a Gwdig wedi derbyn £291,032 ar gyfer prosiect i hyrwyddo Gogledd Sir Benfro fel cyrchfan i ymwelwyr, trwy ddatblygu a chydgysylltu gwasanaethau i dwristiaid.
* Bydd Menter Y Felin Uchaf Cyf, ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd, yn elwa o £298,900 i greu Canolfan Archaeoleg, Mytholeg ac Adrodd Storïau newydd.
* Bydd Chwaraeon Dŵr Ceredigion ym Mae Ceredigion yn derbyn £123,974 i ddarparu cynnyrch a gweithgareddau newydd, offer wedi'i uwchraddio a rheoli proffesiynol.
* Mae Cyngor Gwynedd i dderbyn £280,205 am brosiect dwy flynedd i ddatblygu 13 o lwybrau syth neu gylchol a fydd yn cysylltu cymunedau â Llwybr Arfordir Cymru, gan sicrhau cymaint â phosib o fanteision economaidd i'r llwybr yng Ngwynedd.