Mwy o Newyddion
Mynegi diddordeb yn safle Canolfan Ddinesig Penllergaer
Mae pedwar o brif ddatblygwyr tai blaenllaw y DU eisoes wedi mynegi diddordeb yn safle Canolfan Ddinesig Penllergaer.
Rhoddwyd y safle ar y farchnad gan Gyngor Abertawe ym mis Tachwedd wrth iddo barhau i wneud y defnydd gorau o'i eiddo i fynd i'r afael â'r diffyg sylweddol yn y gyllideb.
Mae nifer o feddiannwyr swyddfa hefyd wedi cysylltu ag unig asiant gwerthu'r cyngor, Lambert Smith Hampton, i gael mwy o wybodaeth.
Agorwyd yr adeilad tri llawr, sy'n mesur oddeutu 6,368 metr sgwâr (68,485 troedfedd sgwâr), ym 1982 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw gynt. Mae'n rhan o safle 5.9 hectar (14.58 erw).
Bydd y staff sy'n gweithio yn yr adeilad yn symud yn ystod 2015 fel rhan o strategaeth llety swyddfa ehangach y cyngor. Nid yw'r safle sydd ar werth yn cynnwys unrhyw ran o Goedwig Cwm Penllergaer.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Mae'r defnydd o'n holl adeiladau ac eiddo'n cael ei adolygu wrth i ni geisio dod o hyd i atebion effeithlonrwydd yn wyneb her gyllidebol ddigynsail.
"Mae lefel y diddordeb yn safle Canolfan Ddinesig Penllergaer hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn arwain at werthiant sydd o fudd i'r prynwr a'r cyngor.
"Mae hyn yn dangos ein bod yn benderfynol o wneud ein rhan wrth geisio cyflawni ein targed arbenion sylweddol a diogelu cynifer o wasanaethau â phosib i breswylwyr ar draws y ddinas. Bydd unrhyw gynlluniau a gyflwynir yn y dyfodol yn amodol ar weithdrefnau cynllunio llawn."
Meddai Jason Thorne, Cyfarwyddwr Lambert Smith Hampton, "Mae lefel a safon yr ymholiadau hyd yn hyn wedi bod yn addawol iawn, ac mae'n ymwneud â'r cyfleoedd y mae'r safle'n eu cynrychioli. Mae ei gryfderau'n cynnwys maint a lleoliad ac mae galw yn y farchnad am dai o safon yn y rhan benodol hon o Abertawe."
Mae'r eiddo ger yr A483, munudau o'r M4, ac mae canol y ddinas bum milltir i ffwrdd yn unig. Mae Castell-nedd a Llanelli hefyd o fewn tafliad carreg.
Dylai unrhyw un â diddordeb yn y safle ffonio Lambert Smith Hampton ar 01792 702800.