Mwy o Newyddion
Terfysgaeth yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr Heddlu
Mae Comisiynydd Trosedd wedi rhybuddio bod y gweithredoedd terfysgol yn Ffrainc wedi tynnu sylw at y galw cynyddol sy’n cael ei roi ar yr heddlu.
Yn ôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Winston Roddick CB QC, mae’r weithred derfysgol lle cafodd 17 o bobl eu lladd ym mhrif ddinas Ffrainc yn tynnu sylw at y ffordd y gall blaenoriaethau plismona newid.
Mae heriau eraill sy’n wynebu’r Heddlu yn cynnwys ecsploetiaeth plant a’r broblem gynyddol o droseddau seiber.
Wrth orfod gwneud toriadau, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi datgelu’r arbedion o £4.3 miliwn sydd angen eu gwneud yn 2014/15 a’r £3.5miliwn o arbedion sydd angen eu gwneud yn 2015/16.
Er i adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Heddluoedd Ei Mawrhydi nodi bod Heddlu Gogledd Cymru ar y trywydd cywir o ran sicrhau’r arbedion angenrheidiol, rhybuddiodd Mr Roddick bod amser caled ar y gorwel ac y gallai cynlluniau ariannol gael eu hamharu arnynt gan ddigwyddiadau sy’n creu blaenoriaethau newydd ac ychwanegol.
Meddai Mr Roddick: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn troseddau cysylltiedig â therfysgaeth, ecsbloetio plant yn rhywiol a throseddau seiber dim ond i grybwyll rhai o’r troseddau difrifol sy’n cael eu cyflawni’n amlach ac sy’n ychwanegu’n sylweddol at yr heriau sy’n wynebu plismona modern a’r pwysau ariannol sydd ar yr heddlu ar amser lle maent yn wynebu toriadau sylweddol.
“Mae’r achosion diweddar o saethu aelodau diniwed o’r cyhoedd a swyddogion heddlu yn swyddfeydd y cylchgrawn Charlie Ebdo ym Mharis a’r gwarchae erchyll a ddilynodd hynny yn enghraifft o’r galw cynyddol ac amrywiol sy’n cael ei roi ar ein heddluoedd a sut gall blaenoriaethau newid yn gyflym.”
“Does dim llawer yn ôl ers llofruddiaeth erchyll y milwr Lee Rigby ar strydoedd Llundain, rhywbeth yr oedd yn rhaid i’r Heddlu hefyd ddelio ag ef.
“Mae lefel y bygythiad ar gyfer y DU yn ‘uwch’ sy’n golygu bod y gwasanaethau diogelwch yn nodi bod ymosodiad yn hynod debygol. Does gan derfysgaeth byd-eang ddim ffiniau. Dywedodd cyn gyfarwyddwr gwrthderfysgaeth MI5 mewn papur cenedlaethol bod yr ideoleg sy’n gyrru’r terfysgwyr yn cael ei hyrwyddo yn y fath ffordd sy’n cyrraedd calon cymunedau agored i niwed, lle bynnag y maent.
“Yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd rwy’n nodi mai fy mhrif amcan yw diogelwch yn y cartref a bod yn saff mewn mannau cyhoeddus. Ni fu hynny erioed mor bwysig ag ydyw heddiw yng ngoleuni’r hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol ar hyn o bryd.
“Cannoedd o flynyddoedd yn ôl, fe ddywedodd yr athronydd Rhufeinig Cicero, ‘Bydded i ddiogelwch y bobl fod y gyfraith uchaf’. Mae’r datganiad wedi datblygu i fod yn neges bwysicaf plismona'r oes hon.”
Ychwanegodd Mr Roddick: “Mae’r enghreifftiau diweddar iawn o ecsploetiaeth rhywiol plant yn Rotherham, Caergrawnt a Bryste a’r honiadau gan Barnardos Cymru a Chomisiynydd Plant Lloegr bod y trosedd hwn yn gyffredin yn ei roi yn uchel ar restr flaenoriaethau’r heddlu.”
Tynnodd y Comisiynydd hefyd sylw at yr ymosodiad seiber ar gwmni Sony Pictures mewn cysylltiad â’r ffilm ‘The Interview’ yn yr Unol Daleithiau a mynegodd ei bryder am allu’r heddluoedd, sydd eisoes dan bwysau, i ymdopi â’r galw ychwanegol hwn.
Meddai: “Mae’n rhaid i Heddlu Gogledd Cymru, fel gweddill Heddluoedd Prydain, ymateb i’r galwadau newydd hyn drwy adolygu blaenoriaethau plismona a drwy ddefnyddio cymaint o’u hadnoddau prin ar hyn â phosibl.
“Rwy’n bryderus bod yn rhaid iddynt wneud hynny ar amser lle maent yn wynebu gorfod gwneud toriadau ariannol sylweddol.”