Mwy o Newyddion
Gwobr am gynllun tai sy’n rhoi hwb newydd i bentref yn Eryri
Mae datblygiad tai ecogyfeillgar, sy’n helpu i roi hwb newydd i un o hen bentrefi’r chwareli llechi yn Eryri wedi ennill gwobr genedlaethol fawr.
Cafodd cynllun £730,000 Maes y Waen ym Mhenmachno yng Nghonwy ei enwi yn Ddatblygiad y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Cymru.
Cyflwynwyd y wobr ar y cyd i gymdeithas tai Cartrefi Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Swyddog Galluogi Tai Gwledig Conwy, a oedd yn bartneriaid yn y prosiect.
Yn ogystal â chanmol ansawdd rhagorol y cynllun a’r gwaith adeiladu, cafodd y datblygiad ganmoliaeth hefyd gan y beirniaid am helpu i ddiogelu dyfodol ysgol y pentref, yn ogystal â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Mae’r chwe chartref fforddiadwy i deuluoedd wedi sicrhau bod teuluoedd lleol yn gallu aros yn y pentref, yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd.
Cafodd y pedwar eiddo tair ystafell wely a’r ddau eiddo dwy ystafell wely eu hadeiladu gan y cwmni adeiladau R.L. Davies, sydd wedi ennill gwobrau.
Agorwyd y cynllun yn swyddogol ym mis Gorffennaf y llynedd, a hwn oedd y datblygiad tai cymdeithasol cyntaf yn y pentref ers 40 o flynyddoedd.
Penderfynodd Cartrefi Conwy fwrw ymlaen â’r cynllun ar ôl i arolwg a gynhaliwyd gan Swyddog Galluogi Tai Gwledig Conwy ddangos angen clir i ddiwallu galw lleol.
Yn ôl Andrew Bowden, Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, roedd yn ymfalchïo’n fawr yn y wobr.
Meddai: "Prif fwriad Cartrefi Conwy oedd cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, drwy wella pob un o’n heiddo presennol, a gwnaethom hynny ar amser – y garreg filltir nesaf i ni oedd dechrau adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd yn sir Conwy.
"Mae’n newyddion gwych ein bod wedi gallu cyflawni ein cynllun cyntaf mewn cymuned wledig, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gan weithio’n agos iawn gyda’r Swyddog Galluogi Tai Gwledig a’r Cyngor Cymuned, er mwyn sicrhau bod ein datblygiad yn gweddu anghenion y gymuned leol.
"Rydym ar ddeall yn awr y bydd ein datblygiad yn helpu i gynnal yr ysgol leol, yn ogystal â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant sydd, unwaith eto, yn bwysig i Cartrefi Conwy.
"Rydym wedi defnyddio dulliau adeiladu modern er mwyn sicrhau safonau inswleiddio uchel, ac wedi defnyddio paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell awyr hefyd.
"Mae gan y cartrefi nifer o nodweddion modern, ac maent wedi’u cynllunio fel ‘cartrefi am oes’, sy’n golygu bod y cartrefi yn gwbl hygyrch i denantiaid anabl neu bobl hŷn.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Edwards, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am dai yng Nghyngor Conwy: “Rwy’n falch iawn bod ein partneriaeth wedi arwain at ennill y wobr nodedig hon.
"Y peth pwysicaf yw ein bod yn darparu tai i bobl leol, sy’n eu galluogi i aros yn eu cymuned, sy’n helpu’r gymuned i barhau i fod yn hyfyw ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn moderneiddio tai cymdeithasol. Nid yw darpariaeth o’r fath wedi bod ar gael i gymunedau ers gormod o amser, ac mae hyn wedi gwella’r safon ar gyfer y dyfodol.
"Mae’r prinder tai fforddiadwy, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, yn golygu bod pobl yn gorfod symud i ffwrdd i gael gwaith.
"Mae’n rhaid i ni dorri’r cylch dieflig hwn a sicrhau ein bod yn gweithio i’n cymunedau, drwy ddarparu tai a galluogi pobl i aros yn eu cymunedau ac yna eu helpu i ddod o hyd i waith.”
Ymhlith y tenantiaid ym Maes y Waen mae Rachel Wainwright, mam i dri o blant, sydd wedi’i geni a’i magu ym Mhenmachno.
Dywedodd ei bod wrth ei bodd gyda’i chartref newydd, ac y byddai’r teulu wedi gorfod gadael y pentref hebddo, oherwydd bod y tŷ rhent yr oeddent yn byw arno ar werth.
Esboniodd Rachel: "Roedd yn bwysig iawn ein bod yn gallu aros ym Mhenmachno. Mae fy nheulu i gyd yn byw yma, ac maent yn gofalu am y plant pan wyf yn gweithio.
"Mae’r plant wedi arfer byw yma, ac mae ganddynt lawer o ffrindiau yn y pentref, felly mae’n braf iawn eu clywed yn chwarae gyda’u ffrindiau ar y stryd. Nid ydynt wedi gallu gwneud hynny o’r blaen, ac mae hynny’n wych.
"Mae’r tŷ yn wych, mae’n hyfryd. Ni fyddwn byth wedi gallu cael rhywbeth fel hyn heb Cartrefi Conwy.
Yn ôl Brian Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Cartrefi Conwy, mae’r datblygiad yn dynodi dechrau pennod newydd i’r sefydliad.
Meddai: "Y datblygiad ym Maes y Waen yw’r cyntaf o nifer o ddatblygiadau newydd sydd ar y gweill. Rydym yn cynllunio adeiladu llawer mwy o dai fforddiadwy yn y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Swyddog Galluogi Tai Gwledig Cyngor Conwy, Buddug Williams: “Mae’n wych gweld datblygiad mewn ardal mor wledig yn llwyddo i ennill gwobr mor nodedig.”
Atgyfnerthwyd y farn hon gan Chris Jones, syrfëwr meintiau o’r cwmni adeiladu R.L. Davies: “Rwy’n falch iawn. Mae’r wobr yn brawf o ymdrech gwych gan y tîm ac mae’n dyst i waith caled pawb.”
Ychwanegodd David Lowe, Swyddog Datblygu Tai Fforddiadwy Cyngor Conwy: “Mae’r datblygiad hwn yn cefnogi’r gymuned leol, mae’n helpu i gynnal yr ysgol leol ac yn helpu i’r gymuned fod yn fwy cynaliadwy. Mae’n gyflawniad aruthrol bod y gwaith partneriaeth a oedd yn sail i’r prosiect tai hwn wedi ein helpu i ennill cydnabyddiaeth genedlaethol o’r fath.”