Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Ionawr 2015

Diffyg parch tuag at hunaniaeth cenedlaethol

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams wedi ymosod ar Lywodraeth San Steffan am ddangos diffyg parch tuag at hunaniaeth cenedlaethol, wrth iddynt wrthod y cyfle i bobl ddewis pa faner a fydd yn ymddangos ar eu trwydded yrru.

Yr wythnos hon, wrth ymateb i gwestiynau Seneddol gan Hywel Williams AS, cadarnhaodd yr Adran Drafnidiaeth na fyddent yn caniatau gyrrwyr yng Nghymru gael baner y Ddraig Goch ar eu trwydded gyrru oherwydd ei fod yn rhy ‘gostus’ ac yn ‘anymarferol’.

Cadarnhaodd y Llywodraeth hefyd ni bu ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol.

Mae dros 6,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb ar-lein sy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i gadw trwyddedau gyrru fel ag y maent neu roi baner y Ddraig Goch arnynt os yng Nghymru.

Bydd Hywel Williams AS yn gwneud cais am ddadl ar y mater yn San Steffan ac mae yn y broses o gydlynu ymgyrch i ddeisebu’r Prif Weinidog yn Stryd Downing. 

Dywedodd Hywel Williams AS: “Bydd nifer fawr yn rhannu fy siom fod Llywodraeth Prydain yn amddifadu pobl o’u hawl i ddewis pa faner fydd yn ymddangos ar eu trwydded gyrru.

"Mae honi mai mater o gost yw hyn yn hollol afresymol. Pwy fasa’n meddwl fod newid lliw o las i wyrdd am gostio cymaint?

"Wrth gyfeirio at Gogledd Iwerddon, er ei fod yn bwynt dilys, mae hyn yn profi fod Llywodraeth Prydain yn cydnabod hyn fel mater gwleidyddol.

"Mae dros 6000 wedi arwyddo’r ddeiseb. Rwy’n cydlynnu â threfnwyr y ddeiseb gyda’r bwriad o’i chyflwyno yn Llundain. Byddaf hefyd yn ceisio am ddadl ar y mater.”

 

Rhannu |