Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Ionawr 2015

Archifau Cymru yn elwa ar arian partneriaeth

Diolch i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er Gwarchod Llawysgrifau (NMCT), bydd pump o wasanaethau archifau yn cael cyfanswm o £43,000 i wneud gwaith cadwraeth hanfodol ar eitemau yn eu casgliadau sy'n fregus ac wedi eu difrodi.

Bydd yr arian yn gwarchod eitemau yr oedd y mynediad atynt yn hynod gyfyngedig o'r blaen oherwydd eu cyflwr, ac yn golygu eu bod ar gael i ddefnyddwyr lleol, myfyrwyr ac ymchwilwyr.

Hefyd, bydd y driniaeth gadwraeth yn ei gwneud yn bosibl i ddigideiddio'r dogfennau, gan olygu bod cynulleidfaoedd ar-lein yng Nghymru a'r tu hwnt yn gallu cael mynediad at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Mae'r sefydliadau a'r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys dau lyfr o lythyrau gwreiddiol, dyddiedig 1811-1824, gydag un ohonynt yn cynnwys cofnodion o yrfa filwrol yn ystod brwydr Waterloo. Ystyrir eu bod o arwyddocâd cenedlaethol, ac yn darparu dau naratif goddrychol, difyr a chydamserol o gyfnod hynod arwyddocaol yn hanes Prydain.

Casgliad arall a fydd yn cael ei warchod yw detholiad o 41 o ddarluniau, brasluniau a dargopïau o weithiau wedi eu dylunio a'u creu gan Reginald Hallward (1858 – 1948), sef unigolyn a oedd yn bwysig yn y mudiad celf a chrefft fel peintiwr, artist gwydr lliw, darlunydd a dylunydd.

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae'n bleser mawr gennyf weld llwyddiant parhaus y bartneriaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er Gwarchod Llawysgrifau. Hoffwn ddiolch i'r Ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth ac am alluogi'r gwasanaethau archifau yng Nghymru i ddatgelu rhai o'u heitemau mwyaf diddorol ac arwyddocaol. Mae'r bartneriaeth yn gyfle gwych i'r gwasanaethau archifau yng Nghymru gael gwneud gwaith adferol ar eu casgliadau."

Ers 2008 mae'r Ymddiriedolaeth, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 32 o brosiectau. Gwarchodwyd eitemau a chasgliadau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol sydd mewn archifau ledled Cymru, gan gynnwys gohebiaeth o ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, achau a mapiau hanesyddol.

Bydd y gwaith cadwraeth yn gwella mynediad at yr eitemau. Mewn cyflwr sefydlog, gellir astudio'r eitemau, eu trin a'u trafod a'u digideiddio'n ddiogel, ac wedyn gellir eu darparu ar gyfer cynulleidfa ehangach ar y we.

Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er Gwarchod Llawysgrifau:  “Rydym yn hynod falch o gael blwyddyn lwyddiannus arall o gydweithio â Llywodraeth Cymru, a hynny gyda chymorth hael Ymddiriedolaeth Colwinston. Rydym wedi gallu dyfarnu mwy o grantiau i brosiectau gwarchod llawysgrifau yng Nghymru nag yn unrhyw flwyddyn yn y gorffennol.”

 

Rhannu |