Mwy o Newyddion
Pryderu am dalu am Nadolig y llynedd
Dim ond 7% o oedolion Cymru a ddywedodd y byddai talu am Nadolig 2014 yn haws nag yn 2013, ac roedd bron i dri o bob deg o oedolion yng Nghymru (28%) yn disgwyl y byddai’n anoddach, yn ôl arolwg Omnibws Cymru Beaufort. Roedd y rhan fwyaf (65%) yn rhagweld y byddai pethau yr un fath y tro hwn.
Yn ystod y don ddiweddaraf o arolwg Omnibws Cymru Beaufort, a gynhaliwyd ledled Cymru ddiwedd mis Tachwedd / dechrau Rhagfyr 2014, gofynnwyd i 1,003 o oedolion 16 oed a throsodd ateb y cwestiwn "Eleni, a fydd talu am y Nadolig yn haws na'r llynedd i chi, yn fwy anodd neu tua’r un fath?"
Y rhai oedd fwyaf tebygol o ddweud y bydden nhw’n ei chael yn fwy anodd eleni na'r llynedd oedd y rhai gyda phlant dan 16 oed yn y cartref a phobl iau (sef y rhai rhwng 16 a 44 oed), gyda 39% a 36% yn y drefn honno yn dweud hyn
Mae'n ymddangos bod y rhai yn y graddau economaidd-gymdeithasol is DE hefyd yn ei chael hi’n anodd, gyda phedwar o bob deg (39%) o'r grŵp hwn bron â bod (sy'n cynnwys gweithwyr di-grefft, y rhai sydd ar fudd-daliadau'r wladwriaeth a'r rhai heb unrhyw incwm a dalwyd) yn disgwyl i bethau fod yn anoddach.
Yn rhanbarthol, y rhai sy'n byw yng nghymoedd de Cymru (Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf) a gorllewin de Cymru (Pen-y-bont ar Ogwr, Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe) oedd yn fwyaf tebygol o fod yn rhagweld anawsterau (42% a 36% yn y drefn honno , o'i gymharu â 28% ledled Cymru gyfan).
Oedolion yn y dosbarthiadau canol (graddau economaidd-gymdeithasol ABC1), y rhai dros 55 oed a'r rhai sy'n byw yng Nghaerdydd a de ddwyrain Cymru oedd fwyaf tebygol o ragweld na fyddai unrhyw newid yn 2014.