Mwy o Newyddion
Busnes fel arfer yn ystod gwaith ar do Marchnad Abertawe
Bydd yn fusnes fel arfer ym Marchnad Abertawe trwy gydol prosiect sylweddol i adnewyddu'r to eleni.
Bydd mynediad i neuadd y farchnad a'r ardal o'i chwmpas ar bob adeg yn ystod y cynllun £1.9 miliwn a fydd yn dechrau'r wythnos hon a disgwylir ei gwblhau yn yr haf.
Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Abertawe a'r Rhaglen Gwella Adeiladau, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys ailwampio'r to fowt faril presennol ac adnewyddu'r to a'r talcen wydr.
Bydd gwaith hanfodol hefyd i atgyweirio'r to gwastad a llusernau'r to.
Mae contractwr y cyngor ar gyfer y prosiect, R & M Williams, yn gweithio mor agos â phosib â masnachwyr i leihau unrhyw anghyfleustra posib.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Nododd masnachwyr y farchnad mai adnewyddu'r to oedd eu prif flaenoriaeth ond, os sicrheir cyllid ychwanegol, gallai gwelliannau eraill i'r farchnad ddilyn hefyd yn y dyfodol i wella'i golwg a'i naws ymhellach.
"Caiff mynediad i'r farchnad ei gynnal ar bob adeg yn ystod y prosiect adnewyddu, felly bydd yn fusnes fel arfer i fasnachwyr y farchnad. Dyma pam byddwn yn annog pobl i barhau i gefnogi masnachwyr gwych y farchnad yn ystod y gwaith gwella.
"Mae ein marchnad ffyniannus yn gwneud cyfraniad anferth at enw da canol dinas Abertawe am fod yn unigryw a bydd y gwelliannau hyn yn sicrhau ei bod wrth wraidd canol y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."
Mae gan dîm o R & M Williams ganolfan dros dro bellach yn 39 Stryd yr Undeb. Mae'r adeilad, sydd gyferbyn â Santander, gerllaw un o fynedfeydd y farchnad.
Gyda mwy na 100 o stondinau, gan gynnwys detholiad eang o gynnyrch lleol ffres, bwydydd Cymreig traddodiadol a chigyddion a gwerthwyr pysgod arbenigol, mae Marchnad Abertawe wedi bod yn gwasanaethu pobl Abertawe ers cenedlaethau. Mae tua 20,000 o bobl yn ymweld â hi bob dydd.